Ysbyty Tywysoges Cymru
Mae tri nyrs wedi cael eu dedfrydu am fethu a gwirio lefelau glwcos cleifion bregus yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Rebecca Jones, 31, a Lauro Bertulano, 46, yn “rhy ddiog” i wirio lefelau glwcos rhai cleifion mewn uned strôc arbenigol yn yr ysbyty.

Dywedodd y barnwr Tom Crowther QC bod y ddau nyrs wedi dwyn anfri ar y proffesiwn.

“Nid yn unig roedd hyn yn fethiant i wneud eich swydd, ond hefyd yn fethiant i ddangos  cydymdeimlad a dyngarwch,” meddai.

Cafodd Rebecca Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr, ddedfryd o wyth mis o garchar  tra bod Lauro Bertulano, hefyd o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei garcharu am bedwar mis.

Cafodd eu cydweithiwr, Natalie Jones, 42, orchymyn i wneud 80 awr o waith cymunedol.

Roedd y tri nyrs wedi pleidio’n euog i gyhuddiadau o esgeulustod bwriadol.

Digwyddodd yr achosion yn 2012 a 2013.

Cefndir

Clywodd y llys bod pryderon wedi cael eu mynegi am Ward 2 ym mis Chwefror 2013 ar ôl i swyddogion sylwi bod anghysondebau rhwng lefelau glwcos yn y gwaed a gofnodwyd yn  nodiadau’r cleifion a’r darlleniadau ar fesurydd glwcos a gafodd eu cymryd gan Rebecca Jones.

Dylai’r cleifion ar y ward for wedi cael profion i fesur lefelau glwcos yn eu gwaed bob dwy awr ond yn dilyn ymchwiliad fe ddarganfuwyd bod Rebecca Jones wedi gwneud 51 o gofnodion ffug yn nodiadau’r cleifion tra bod Bertulano wedi gwneud 26.

Ymhlith y naw claf a gafodd eu heffeithio roedd y diweddar Lillian Williams, 82. Roedd diwrnod cyfan wedi mynd heibio heb i brawf gael ei gynnal, clywodd y llys.

Mewn datganiad dywedodd ei mab, Gareth Williams ei fod wedi mynegi ei bryderon ynglŷn â’i fam oedrannus wrth y diffynyddion ond eu bod wedi cael ei diystyru.