Mererid Hopwood
Nes Draw
yw cyfrol gyflawn gyntaf o farddoniaeth gan y Prifardd Mererid Hopwood, a greodd hanes yn 2001 fel y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Enillodd hefyd y Goron am ei cherdd ‘Gwreiddiau’ yn 2003, a’r Fedal Ryddiaith yn 2008 am ei nofel O Ran.

Ond, dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi’i barddoniaeth mewn casgliad cyflawn, er ei bod wedi cyfrannu at amryw o gyfrolau ac wedi cyhoeddi teitlau i blant cyn hyn.

Fe fydd y lansiad yn cael ei gynnal Nos Lun 14 Rhagfyr am 7.30pm yn festri’r Tabernacl, Caerfyrddin, gydag elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas y Cymod, cymdeithas y mae hi’n aelod ohono yng Nghaerfyrddin.

Mae Mererid Hopwood yn cydnabod fod heddychiaeth yn thema fawr yn ei gwaith ac, fel aelod o Gymdeithas y Cymod, mae hi wedi ymgyrchu yn erbyn yr awyrennau dibeilot, milwrol sy’n cael eu datblygu yng nghanolfan Aberporth, Ceredigion.

‘Y caeth a’r rhydd’

Mae hi hefyd yn cydnabod ei hedmygedd i fardd arall sy’n rhannu gwreiddiau daearyddol â hi yn sir Benfro, sef Waldo Williams, ac mae’n un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams.

Er hyn, mae ’na gerddi o bob math yn y gyfrol, gyda’r Prifardd wedi cynnwys cerddi’r Gadair a’r Goron, ynghyd â 70 o gerddi eraill gan gyfuno’r mesurau caeth a rhydd.

“Mae’n amhosibl dweud ffrwyth gwaith faint o flynyddoedd sydd yma,” meddai Mererid Hopwood.

“Mae’r cerddi eu hunain yn cymryd amser weithiau, ond mae’r syniadau y tu ôl iddyn nhw’n cymryd mwy o amser. Gallan nhw droi yn y meddwl am flwyddyn neu ddwy neu ddiwrnod neu ddau – does dim dal.”

Fe esboniodd golygydd gwasg Gomer, Elinor Wyn Reynolds, fod Nes Draw yn “un o’r trysorau hynny sy’n cynnig swyn a syndod i’r rhai sy’n caru barddoniaeth. Yn sicr, bydd pori drwy’r gyfrol hyfryd hon yn cynnig stôr cyfoethog i’r darllenydd, y mae diléit i’w gael ar bob dalen. Nid yw cyfrolau fel Nes Draw yn digwydd yn aml.”

Bydd lansiad Nes Draw yn Festri’r Tabernacl, Caerfyrddin, heno (Nos Lun, Rhagfyr 14) am 7.30yh.