Mae un o fudiadau mwyaf Cymru sy’n ymgyrchu dros faterion amgylcheddol wedi dweud bod cytundeb rhyngwladol sydd wedi dod o drafodaethau newid hinsawdd ym Mharis  yn ‘gyfle sydd heb ei fachu’.

Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru bod y cytundeb ar y cyfan yn ‘siomedig’ ac nad oes rhwymedigaethau cadarn i sicrhau bod arweinwyr byd yn cadw at eu haddewidion.

“Mae popeth (yn y cytundeb) yn rhy hwyr ac yn rhy wan,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n dweud bod angen i ni leihau ein hallyriadau carbon cyn gynted â bod modd, wel dyw hwnna ddim yn unrhyw orfodaeth ar wledydd – mae’n rhaid i ni leihau allyriadau ar ras os yw’r blaned yn mynd i allu cynnal bywyd gwyllt a bywyd pobol.”

Bydd targedau’r cytundeb, fel sicrhau nad yw tymheredd y byd yn codi’n uwch na 1.5C yn cael eu hadolygu bob pum mlynedd, gyda’r adolygiad cyntaf erbyn 2023, ond yn ôl Gareth Clubb, mae hyn yn rhy hwyr.

“Erbyn 2023 os nad ydyn ni wedi bron a haneru ein hallyriadau carbon, mae ar ben arnom. Bydd tymheredd y byd yn sylweddol uwch na 2C,” meddai.

Roedd yn cyfaddef bod cael cytundeb yn ei le yn ‘well na’r disgwyl’ ond galwodd am ddogfen sydd â grym cyfraith ryngwladol y tu ôl iddi.

Rhoi pwysau ar lywodraethau Cymru a Phrydain

Yn ôl y mudiad, byddan nhw’n mynd ati nawr i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru i ‘weithredu’.

“Dydy David Cameron heb ddangos ei fod yn deall beth yw economi isel ei garbon,” ychwanegodd Gareth Clubb, gan gyfeirio at bolisi Llywodraeth San Steffan i ganiatáu ffracio – tyllu am nwy siâl yn rhai rhannau o Loegr.

Bydd y mudiad hefyd yn herio Gweinidogion ym Mae Caerdydd ynghylch cynlluniau ‘uchel eu carbon’ fel yr M4 newydd, cylchffordd rasio Blaenau Gwent a phwerdai newydd.

“Byddwn yn eu herio nhw a gofyn sut mae’r cynlluniau hyn yn mynd i’n cadw ni o fewn y trothwy 1.4C.”

“Mae ‘na gyfle gwirioneddol i unrhyw wlad fan hyn i gymryd y blaen ac arloesi. Ond dwi ddim yn gweld hynny’n digwydd ar ran Llywodraeth Cymru, dwi ddim yn gweld unrhyw ymrwymiad o blith Gweinidogion Cymru i dargedau uchelgeisiol.”