Mae un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sanclêr nos Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd A40 ar gyrion y dref toc cyn 8 o’r gloch.

Tarodd Toyota gwyn a Renault Clio du yn erbyn ei gilydd.

Bu farw gyrrwr 51 oed y Toyota yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddarach.