Leighton Andrews
Mae gweithgor wedi cael ei sefydlu er mwyn  cynghori ar y defnydd gorau o’r Gymraeg mewn llywodraeth Leol, meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.

O dan gadeiryddiaeth Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, bydd y grŵp yn mynd ati i ystyried materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg wrth i’r cynlluniau i uno awdurdodau lleol ddigwydd.

‘Rhannu arferion da’

Dywedodd Leighton Andrews: “Bydd y grŵp yn sicrhau, wrth i’r broses o uno Awdurdodau Lleol fynd rhagddi, bod arferion da o ran defnyddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddu cyngor yn parhau ac yn cael eu rhannu.

“Bydd y Grŵp hefyd yn sicrhau ein bod yn ystyried beth yw’r arferion da mewn Llywodraeth Leol sy’n gallu helpu cymunedau Cymraeg i ffynnu. Yn benodol, sut y gall Llywodraeth Leol gefnogi’r Gymraeg fel rhan o wead y gymuned drwy ei swyddogaethau datblygu economaidd.”

Cylch gwaith y grŵp fydd canfod arferion da yn y meysydd gan wneud argymhellion a fydd yn sail i ganllawiau statudol a fydd yn cael eu drafftio ar gyfer Pwyllgorau Pontio.

Bydd y Grŵp yn paratoi adroddiad erbyn diwedd mis Mai 2016.