Leighton Andrews
Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi faint o arian fydd pob cyngor yn ei gael o dan y cyllid o £4 biliwn sy’n dod gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae’r cynghorau’n wynebu toriad o 1.4% ar gyfartaledd – sef £57 miliwn yn llai na’r swm a gafwyd y llynedd ac yn ôl Leighton Andrews mae’n “setliad tipyn gwell nag oedd Llywodraeth Leol yn ei ddisgwyl.”

Mae’r toriadau’n amrywio o 0.1% yn unig yng Nghaerdydd, i 4.1% ym Mhowys.

“Wrth osod lefelau’r dreth gyngor ar gyfer 2016-17, rwy’n gofyn i Awdurdodau Lleol feddwl o ddifrif am yr heriau cyllid sy’n eu hwynebu ac i roi’r un ystyriaeth hefyd i’r baich ariannol sydd ar aelwydydd,” meddai Leighton Andrews.

Toriadau

Y Cyngor fydd yn dioddef y mwyaf o’r toriadau fydd Powys sy’n cael toc o 4.1% – tua £6m o’i gyllideb gan ei leihau i bron i £168.5m.

Doedd Ceredigion ddim yn bell ar ei ôl wrth iddo wynebu gostyngiad o 3.4% – £3.5m i’w gyllid gan ddod a’i gyfanswm i £96.5m yn ystod y flwyddyn nesaf.

Dim ond 0.1% o’r gyllideb bydd Cyngor Caerdydd yn gorfod ei ddioddef, gan ei wneud y cyngor sydd â’r mwyaf o arian o bell ffordd – bron i £427m.

Toriadau gweddill Cynghorau Cymru

 

Y Gogledd

Bydd Cyngor Ynys Môn a Sir Ddinbych yn colli £2m yr un a Chyngor Gwynedd a Chonwy yn colli tua £3m yr un.

Bydd arian Sir y Fflint yn lleihau o £187.5m i £184.7m a Wrecsam yn cael £169.7m yn hytrach na £172m.

De-orllewin

Draw at y gorllewin a bydd Sir Benfro yn colli 2.8% o’i gyllid, sef tua £4m, bydd Sir Gaerfyrddin yn dioddef toriad o tua £3m.

De-ddwyrain

Bydd Abertawe hefyd yn dioddef toriad o £3m gan leihau ei gyllid 0.9% i lawr i £307.7m. Bydd cyllid Castell-nedd Port Talbot yn lleihau dros £1m sy’n 0.9% o doriad.

Fe fydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £2m yn llai a bydd £3m yn llai i drigolion Bro Morgannwg.

Mae cyllid Rhondda Cynon Taf wedi lleihau dros £3m hefyd, lle mae cyllideb Merthyr Tudful sydd bellach yn £89,188 wedi lleihau bron i £1m.

Mae Caerffili wedi cael toriad o tua £1.5m a chafodd Blaenau Gwent a Thorfaen doriadau  bron i £2m yr un.

Mae cyllideb Sir Fynwy bellach i lawr 3.1% – o £94.4m i £91.5m a Chasnewydd wedi cael 0.7% yn llai o £210.5m i £209m.

Gwario gwasanaethau lleol wedi codi yng Nghymru

“Rydyn ni wedi diogelu’r cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru gydol tymor y Cynulliad hwn,” meddai Leighton Andrews.

“O ganlyniad i’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ers 2010-11, mae gwariant ar wasanaethau lleol yn Lloegr wedi lleihau tua 10% mewn termau arian parod, ond mae wedi cynyddu 2.5% yng Nghymru.”

Mae’r setliad hwn hefyd yn cynnwys £244 miliwn i gadw hawliau llawn, i ymgeiswyr cymwys o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Galw am newid y ffordd o rannu cyllid

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r ffordd y mae’r cyllid wedi cael ei rannu gan ddweud bod angen ei newid.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Leol, mai cymunedau cefn gwlad fydd yn “dioddef mwyaf”, o’r ffordd y mae’r cyllid wedi’i rannu.

“Mae’n glir bod angen ailystyried y fformiwla i gyd, gydag amrywiaeth anesboniadwy mewn toriadau rhwng awdurdodau lleol,” meddai Janet Finch-Saunders, AC.

“Beth fydd ddim yn sioc yw bod cymunedau gwledig unwaith eto wedi cael eu taro’n anghyfartal gan y Llywodraeth Lafur hon.

“Mae perthynas Llywodraeth Llafur Cymru â Chymru cefn gwlad ar ei gwaethaf erioed.”