Banc bwyd Llun: Ymddiriedolaeth Trussell
Mae bron i dri chwarter o bobol Cymru o’r farn fod banciau bwyd yn dangos bod rhywbeth ‘sylfaenol o’i le’ gyda’n cymdeithas, yn ôl ymchwil newydd gan Oxfam Cymru.

Mae barn a phryderon pobol Cymru am y defnydd o fanciau bwyd wedi’u hamlygu yn y pôl piniwn a gafodd ei gomisiynu gan Research Now.

Cafodd 1,890 o bobol eu holi drwy wledydd Prydain, gan gynnwys 477 yng Nghymru.

Awgryma’r ymchwil fod 72% o bobol Cymru am weld y llywodraeth yn ymdrin ar frys ag ansicrwydd bwyd a’r cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, a’u bod yn rhoi’r un pwys ar fwyd ag y maen nhw’n ei roi ar ddiweithdra a thai fforddiadwy.

Mae’r un nifer yn dweud bod y ffaith fod angen banciau bwyd yng ngwledydd Prydain yn arwydd o broblem gymdeithasol ehangach.

‘Cynnydd mawr’ 

Yng Nghymru, nododd 65% eu bod nhw’n credu bod cynnydd ‘mawr’ neu ‘fawr iawn’ wedi bod yn y defnydd o fanciau bwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl data Ymddiriedolaeth Trussell, mae’r defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru’n anghymesur o uchel o’i gymharu â gwledydd eraill Prydain.

Yn 2014-15, cafodd gwerth tridiau o fwyd argyfwng ei roi i 85,875 o bobol yng Nghymru, gan gynnwys 30,136 o blant.

Eisoes, mae camau wedi’u cymryd i ddatrys y sefyllfa yn dilyn cyfarfod o’r Gynghrair Tlodi Bwyd Cymru fis diwethaf.

‘Angen darganfod maint y broblem’ 

Dywedodd pennaeth Oxfam Cymru, Carys Thomas: “Mae pobol Cymru yn gandryll bod mwy a mwy o bobol yn methu fforddio digon i fwyta ac maen nhw eisiau gweld mwy o sylw yn cael ei roi i’r broblem i sicrhau safon byw uwch i bobol.

“Allwn ni ddim bod yn sicr o raddfa’r broblem yma yng Nghymru, oherwydd nad oes digon o ddata.

“Gan fod nifer fawr o’r bobol sy’n methu cael digon i’w fwyta ddim yn defnyddio darpariaeth bwyd ar frys, mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddarganfod beth yw maint y broblem, er mwyn gallu bwrw iddi i greu cynllun fydd yn dechrau lleihau ansicrwydd bwyd yng Nghymru.

“A ninnau ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain, mae rhywbeth o’i le os oes cymaint o bobl angen cymorth gan eu bod methu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd.

“Mae pobol Cymru yn amlwg yn cytuno gydag Oxfam bod angen i wleidyddion amlinellu sut yn union maen nhw am fynd i’r afael â’r her amlwg hon.”