Fe fydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn datgelu heddiw faint o arian y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn fel rhan o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i’r gyllideb eleni ostwng 2.2% i £4.4 biliwn, sy’n golygu gostyngiad ariannol o bron i £80 miliwn.

Mewn datganiad i’r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Jane Hutt fod y setliad i Gymru’n un “heriol” ac y bydd gostyngiad o 3.6% yng nghyllideb y Llywodraeth mewn termau real erbyn 2019-20.

Daw’r cyhoeddiad heddiw bythefnos yn unig ar ôl i Ganghellor San Steffan, George Osborne roi Datganiad yr Hydref.

Daeth cadarnhad bryd hynny bod Cymru’n derbyn £15 biliwn eleni.

Dosbarthu’r arian

O’r £293.5 miliwn sy’n cael ei addo eleni, bydd £200 miliwn yn mynd at wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd fel ysbytai, gofal cymunedol a gofal sylfaenol.

Bydd gwasanaethau pobol hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl yn cael £30m yn ychwanegol a bydd £33.5m yn rhagor o gyllid cyfalaf yn mynd at adeiladu seilwaith newydd yn ystod 2016/17.

Bydd cynnydd hefyd o £30m i’r Gronfa Gofal Canolraddol a fydd yn helpu gwasanaethau i gefnogi pobol hŷn a phobol sy’n agored i niwed i’w helpu i aros yn annibynnol er mwyn osgoi eu hanfon i’r ysbyty yn ddiangen.

Yn ôl y llywodraeth, mae’r buddsoddiad hwn yn golygu bod y gwariant y pen yng Nghymru yn debygol o fod yn uwch nag yn Lloegr yn ystod 2016-17.

Yn y cyfamser, bydd ysgolion yn derbyn £40 miliwn ychwanegol, a £35 miliwn ohono’n mynd at gefnogi gwariant ar adnoddau ysgolion ‘y rheng flaen’ drwy’r cynghorau sir.

Ym maes addysg bellach, bydd £5 miliwn ar gael i greu 2,500 o brentisiaethau a £10 miliwn arall yn sicrhau na fydd rhaid i fyfyrwyr yng Nghymru dalu mwy am radd nag yn 2010-11.

Bydd brecwast ysgol, llaeth ysgol, nofio a phresgripsiynau am ddim hefyd yn parhau, ynghyd â thocynnau teithio rhatach.

‘Heriol’

Dywedodd Jane Hutt: “Mae hwn yn setliad heriol arall, sy’n cael ei wneud ar adeg pan rydyn ni wedi gweld un toriad ar ôl y llall mewn termau real i’n Cyllideb dros y pum mlynedd diwethaf.

“O ganlyniad, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Ond, rydyn ni wedi gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu’r gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru.”