Gareth Bale oedd un o sêr Cymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 (llun: David Davies/PA)
Mae Dan Biggar wedi cyfaddef y byddai e wedi dewis Gareth Bale fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru eleni, ar ôl casglu’r wobr nos Lun.

Biggar ddaeth i’r brig yn y bleidlais gyhoeddus ar ôl serennu dros Gymru yng Nghwpan y Byd, gyda’r seiclwr Geraint Thomas yn ail a’r bocsiwr Lee Selby yn drydydd.

Roedd tipyn o syndod fodd bynnag nad oedd Bale, oedd yn gyfrifol am y goliau a daniodd tîm pêl-droed Cymru i Ewro 2016, wedi cyrraedd y tri uchaf.

Ac fe awgrymodd yr enillydd bod pêl-droediwr drytaf y byd yn anlwcus iawn i beidio â chipio’r wobr.

Coroni ‘blwyddyn wych’

“Byddai fy mhleidlais i wedi mynd i Gareth Bale,” cyfaddefodd Biggar ar ôl ennill y tlws. “Mae e’n anlwcus iawn ond falle bod hynny’n dangos pa mor wallgof yw’r wlad am eu rygbi.


Biggar yn casglu'i wobr
“Dw i’n teimlo dros Gareth achos dw i’n meddwl bod ei lwyddiant e’n sicr wedi rhagori ar fy rhai i ar ôl iddo arwain Cymru i’r Ewros. Mae bois pêl-droed Cymru wedi cael blwyddyn mor wych, ac mae’n dychryn rhywun bod Gareth ddim yn y tri uchaf.”

Diolchodd fodd bynnag i’r rheiny oedd wedi pleidleisio drosto gan ddweud ei bod hi’n “deimlad rhyfedd” gweld ei enw’n cael ei ychwanegu at restr ddisglair o sêr chwaraeon Cymru.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych ac un dw i wedi mwynhau’n fawr. Mae hyn yn ffordd wych o’i gorffen hi,” ychwanegodd maswr Cymru a’r Gweilch.

‘Dim cystadlu â rygbi’

Fe gyfaddefodd Lee Selby, a ddaeth yn drydydd yn y bleidlais er iddo ddod yn bencampwr bocsio’r byd eleni, ei bod hi’n anodd cystadlu â’r bêl hirgron mewn gwobrau o’r fath.

“Fel bocsiwr, dydych chi ddim fel arfer yn setlo am unrhyw beth heblaw am gyntaf,” meddai Selby wrth Golwg360.

“Ond roedd y dynion a merched gafodd eu henwebu yn athletwyr mor wych, felly mae’n fraint fawr i mi i ddod yn drydydd.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych i mi. Petai hi’n cael ei dewis gan banel, efallai y buaswn i wedi dod yn gyntaf, ond gan mai pleidlais gyhoeddus oedd hi, allwch chi ddim cystadlu â rygbi yng Nghymru!”