Mae Brwydr y Bandiau yn ôl eto eleni, cystadleuaeth a fydd yn gweld bandiau o bob cwr o Gymru yn cystadlu am £1,000 a slot i berfformio ym Maes B, un o wyliau mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg.

Dyma’r ail dro i’r gystadleuaeth gael ei threfnu ar ei newydd wedd gan Faes B, C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru.

Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i fandiau ifanc newydd ennyn profiad yn y sin, a’r gobaith yw y bydd y bandiau’n mwynhau’r profiad ac yn parhau i gigio a chyfansoddi yn y Gymraeg yn y dyfodol.

Bydd y perfformwyr gorau hefyd yn ennill cyfle i berfformio sesiwn ar C2 Radio Cymru a chael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C ac yn cael eu cynnwys yng nghylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar.

Bydd gwobr arall o £100 hefyd yn mynd at gerddor gorau’r gystadleuaeth.

Y sin yn ‘iach’ ac yn ‘amrywiol’

“Rydw i mor falch ein bod ni’n cydweithio ar y gystadleuaeth hon eto eleni ar ôl llwyddiant y llynedd.  Mi oedd hi’n braf gweld cymaint o fandiau gwahanol yn cystadlu â chymaint o arddulliau a dylanwadau amrywiol,” meddai Lisa Gwilym, un o gyflwynwyr C2, wrth lansio’r gystadleuaeth ar Radio Cymru.

“Roedd Lost in Chemistry, enillwyr y llynedd mor wahanol i grŵp fel Cadno neu Terfysg, ac mae mor braf gweld pa mor iach ac amrywiol yw’r sin yma yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd Guto Brychan, trefnydd Maes B a chyd-drefnydd cerddoriaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol: “Fe weithiodd y gystadleuaeth yn dda iawn yn ei blwyddyn gyntaf y llynedd, ac rwy’n sicr y bydd yn llwyddiant eto eleni.

“Roedd y rowndiau cynderfynol yn boblogaidd iawn a’r awyrgylch yn Llwyfan y Maes ar gyfer y rownd derfynol yn wych, gyda channoedd o bobl yn mwynhau’r gerddoriaeth.”

Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora  sy’n cael ei drefnu gan C2 Radio Cymru, a fydd yn gyfle i’r cerddorion ifanc gael cyngor a chymorth gan rai sy’n amlwg ac sydd â phrofiad o weithio yn y Sîn.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 20 Chwefror, a bydd rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau canlynol, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, nos Fercher, 3 Awst.

Gall fandiau gystadlu drwy fynd ar wefan C2, Radio Cymru.