Mae grŵp o academyddion o Brifysgol Bangor wedi galw ar y llywodraeth i ailystyried y ddyletswydd sydd ar ysgolion i gynnal gwasanaethau ac addoliadau crefyddol.

Yn ôl y gyfraith bresennol mae gofyn i’r mwyafrif o ysgolion gwladol ym Mhrydain gynnal addoliad ar y cyd dyddiol neu ddefod grefyddol gyda’u disgyblion, a hynny “yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur”.

Ond mewn adroddiad ar y cyd â Phrifysgol Caerlŷr mae’r academyddion wedi dadlau nad oes sail resymegol dros ei gwneud hi’n rheidrwydd i ysgolion gynnal gweithredoedd addoli.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion yn benodol i Gymru, gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar weithgareddau ‘ar y cyd’ fyddai’n hybu “ysbryd cymunedol” a gwerthoedd cyffredin.

Rhai yn anwybyddu

Yn ôl ffigyrau’r Cyfrifiad yn 2011 roedd 57.6% o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn Gristnogion, gyda 32.1% yn dweud nad oedd ganddyn nhw grefydd, 7.6% ddim yn rhoi ateb, a 2.7% yn dilyn crefydd wahanol.

Mae 98% o ysgolion Cymru yn rhai gwladol, ac o’r rheiny does gan 86% ohonyn nhw ddim cymeriad crefyddol penodol iddi.

Ychwanegodd yr adroddiad bod tystiolaeth yn awgrymu bod rhai ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwrthod dilyn y canllawiau presennol ar addoli yn yr ysgol ar sail egwyddor.

Cyfle i newid

O ystyried y newidiadau sydd ar y gweill i gwricwlwm Cymru yn sgil adroddiad Donaldson fe allai’r blynyddoedd nesaf hefyd fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru ailystyried lle crefydd o fewn ysgolion, yn ôl yr adroddiad.

Fe wnaeth yr academyddion argymhellion pellach, gan gynnwys galw ar ysgolion i gyhoeddi’n glir pa fath o weithredoedd addoli neu grefyddol maen nhw’n ei gynnal er budd rhieni a disgyblion.

Ychwanegodd yr adroddiad y dylai ysgolion roi gwybod i rieni a disgyblion bod ganddyn nhw hawl i beidio â chymryd rhan mewn gweithredoedd o addoli ar y cyd neu ddefodau crefyddol, ac y dylai gweithgareddau eraill gael eu darparu ar eu cyfer.