Mae heddluoedd ledled Cymru wedi lansio eu Hymgyrch Atal Yfed/Cymryd Cyffuriau a Gyrru’r Gaeaf heddiw.

Mae’r ymgyrch, sy’n rhedeg drwy dymor y Nadolig, o heddiw hyd at 1 Ionawr, yn targedu pobol sy’n gyrru tra’u bod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Heddlu Gwent sy’n arwain yr ymgyrch ond mae Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cymryd rhan.

Yng Nghymru’r llynedd, cymerodd 30,718 o fodurwyr ran yn yr ymgyrch, gyda 488 yn gwrthod cymryd y prawf anadl neu’n profi’n gadarnhaol.

“Unwaith eto, bydd yr ymgyrch hon yn canolbwyntio ar rybuddio gyrwyr bod yfed a gyrru, neu gymryd cyffuriau a gyrru, yn gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef”, meddai’r Prif Arolygydd Ross Evans o Weithrediadau Arbenigol Heddlu Dyfed-Powys.

Profion anadl

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd swyddogion yn gwneud profion yfed neu gymryd cyffuriau a gyrru wrth ochr ffyrdd ledled Cymru 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

“Rydym yn ymrwymedig i wneud y ffyrdd yng Nghymru yn fwy diogel ac o flwyddyn i flwyddyn rydym yn codi ymwybyddiaeth am y peryglon o yrru wrth fod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau,” meddai’r Dirprwy Prif Gwnstabl, Julian Williams.

“Mae Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser i fwynhau a mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol, a thra fy mod am annog pawb i gael amser da, mae’n bwysig ailadrodd ein neges allweddol; os byddwch yn yfed, peidiwch â gyrru ac os byddwch yn gyrru, peidiwch ag yfed – mae mor syml â hynny.”

Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch y Ffyrdd Cymru: “Pa bynnag amser o’r dydd yw hi, mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol y byddant yn wynebu’r un gosb â rhywun sydd wedi dewis yfed yn drwm mewn tafarn ac wedi gyrru gyda’r nos, waeth a ydyn nhw’n mynd i’r gwaith neu’n mynd â’r plant i’r ysgol.

“Mae ein neges yn glir – peidiwch byth â gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, hyd yn oed y bore trannoeth.”