Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i gorff dynes yn Afon Wysg.

Fe fu’r gwasanaethau brys yn chwilio am y ddynes 51 oed o Aberhonddu yn dilyn adroddiadau yn hwyr nos Fawrth ei bod ar goll.

Yn fuan wedyn cafwyd adroddiadau bod dynes wedi cael ei gweld yn yr afon.

Mae teulu’r ddynes wedi cael eu hysbysu, meddai’r heddlu.