Safle'r BBC yn Llandaf
Daeth cadarnhad fod BBC Cymru wedi gwerthu ei safleoedd yn Llandaf i ddatblygwr preswyl, sy’n bwriadu adeiladu 400 o gartrefi ar y safle.

Fe fydd BBC Cymru yn symud i ganolfan ddarlledu newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd, a disgwylir i hynny ddigwydd yn ystod 2019.

Fe dderbyniodd y BBC gyngor i werthu eu safle yn Llandaf er mwyn cyfrannu at ariannu’r ganolfan ddarlledu newydd.

Taylor Wimpey  sydd wedi prynu’r safle yn Llandaf a’u bwriad yw codi 400 o gartrefi, ac maen nhw wedi derbyn Caniatâd Cynllunio Amlinellol yn ddiweddar.

Yn ôl Taylor Wimpey, amcangyfrifir y bydd tua 100 o swyddi adeiladu’n cael eu creu a thua 300 arall yn y gadwyn gyflenwi yn ystod datblygu safleoedd Llandaf.

‘Symud yn hanfodol’

Symudodd BBC Cymru i’w phencadlys yn Llandaf yn 1966, ac yn ôl Gareth Powell, Prif Swyddog Gweithredol BBC Cymru, mae yno “atgofion melys dros 50 mlynedd.”

Mae miloedd o oriau o raglenni wedi eu cynhyrchu yn y ganolfan, ac mae’n gartref i Radio Wales, Radio Cymru, teledu BBC Cymru, gwasanaethau ar-lein a’r rhaglenni a wneir i S4C.

Ond, roedd Gareth Powell hefyd yn “edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous yn y Sgwâr Canolog.”

Fe fydd y ganolfan ddarlledu newydd tua hanner maint y safleoedd presennol yn Llandaf, ac felly’n llai costus i’w rhedeg.

“Mae symud i’r Sgwâr Canolog yn hanfodol. Bydd yn datrys y sialensiau a’r cyfyngiadau cynyddol ar ein technoleg a’n hadeiladau ac yn cynnig posibiliadau creadigol arbennig fydd o fudd i’n cynulleidfaoedd.

“Mae’r symud yn gwneud synnwyr da yn ariannol hefyd – mae’n hynod bwysig ein bod yn rhoi’r gwerth gorau posib am arian i’r rhai sy’n talu’r drwydded ac yn enwedig felly o gofio’r sialensiau economaidd presennol.”

“Bydd y buddsoddiad hefyd yn sbardun i fanteision economaidd ehangach a chyfleoedd cyflogaeth newydd, tu hwnt i’r diwydiannau creadigol,” meddai Gareth Powell.