Reyaad Khan
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd cwest yn cael ei chynnal i farwolaeth y jihadydd o Gaerdydd a gafodd ei ladd gan awyren ddibeilot yn Syria.

Fe wnaeth AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, alw am gwest i farwolaeth Reyaad Khan, 21 oed, gan ddweud bod ’na gwestiynau i’w hateb ynglŷn â chyfreithlondeb ei ladd yn ystod mis Awst eleni.

Dyma oedd yr achos cyntaf erioed o ymosodiad gan awyren ddibeilot y DU ar ddinesydd o Brydain.

Yn ystod dadl yn San Steffan am y defnydd o awyrennau dibeilot, fe wnaeth Kevin Brennan gydnabod bod IS yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y DU. Ond dywedodd bod cwestiynau anodd iawn a phryderus ynglŷn â moesoldeb a chyfreithlondeb” dros ddefnyddio awyren ddibeilot i ladd dinesydd o Brydain.

Ond, fe wnaeth y Gweinidog Amddiffyn, Penny Mordaunt, ddweud fod yr achos dros ladd y jihadydd y tu hwnt i awdurdodaeth y crwner.

Fe aeth Reyaad Khan i Syria ddwy flynedd yn ôl, a honnir iddo fod ynghlwm â chynllwynio ymosodiadau brawychol yn  y DU.