Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A467 y bore ‘ma am tua 7.40am.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd  – Honda Civic coch a fan Renault gwyn rhwng Crymlyn a Threcelyn.

Roedd union leoliad y gwrthdrawiad yn agos i fynedfa Parc Technoleg Trecelyn, ac mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd. Mae cerbydau yn cael eu dargyfeirio.

Cafodd dyn oedd yn y Honda Civic a tri pherson oedd yn teithio yn y fan eu hanafu ac maen nhw wedi cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un a welodd y cerbydau hyn cyn neu yn ystod y gwrthdrawiad, i ffonio 101 gan ddyfynnu 42 01/12/15.