Yousuf Bakshi, a ysgifennodd sgript y fideo (llun: Yr Urdd)
“Mae’r Gymraeg yn dwp! Wyddoch chi nad oes llawer o bobl yn siarad Cymraeg? Mi wnâi ddweud wrth fy mhlant fy mod i wedi cael fy ngorfodi i ddysgu Cymraeg.”

I athrawon ar hyd a lled Cymru, ac unrhyw un arall sydd wedi ceisio dysgu’r iaith i blant a phobl ifanc cyndyn, efallai y bydd brawddegau tebyg i’r uchod yn gyfarwydd i chi.

Maen nhw i gyd yn cael eu hadrodd gan ddisgybl 14 oed o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Yousuf Bakshi, mewn fideo trawiadol ble mae’r bachgen yn mynegi rhwystredigaeth â’r Gymraeg.

Ond nid fideo yn dilorni’r iaith yw hon – fel y gwelwch chi o’r tro yn y gynffon:


Cafodd y fideo ei chreu fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng yr Urdd a’r Ganolfan Cynllunio Iaith, oedd yn cael ei hariannu gan GwirVol.

Bu Siwan Tomos o’r Ganolfan Cynllunio Iaith yn rhoi sesiynau ymwybyddiaeth iaith amrywiol i ddisgyblion o ysgolion Argoed, Bryn Alun, Coleg Sir Benfro a Fitzalan, a’u harfogi ar gyfer cynnal eu sesiynau eu hunain.

Fel rhan o’r prosiect fe aeth yr Urdd ati i greu cynnwys o’u dewis nhw er mwyn annog pobl i ddysgu Cymraeg, gan benderfynu y byddai disgyblion yn ymateb yn well i brosiect oedd yn cael ei harwain gan gyfoedion yn hytrach nac oedolion.

O fewn dim roedd Yousuf Bakshi wedi ysgrifennu sgript unigryw ei hun oedd yn gwbl negyddol am y Gymraeg ar yr olwg gyntaf, ond o gael ei darllen am yn ôl yn cynnig neges bwerus yn annog pobl i ddysgu Cymraeg.

Cafodd y sgript ei throi i mewn i fideo gan gwmni ffilmio annibynnol SSP Media, a bellach mae’r fersiwn Gymraeg wedi cael ei gwylio dros 1,000 o weithiau ar YouTube.

Felly’r tro nesaf y clywch chi rywun yn dweud “people shouldn’t think that Welsh is the future”, mae’n bosib y bydd gan Yousuf  Bakshi rhywbeth i’w ddweud am hynny!