Fe fydd y chwilio’n ail-ddechrau bore ma am ddynes yn Afon Wysg yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi cael ei  gweld yn y dŵr ger Aberhonddu ym Mhowys neithiwr.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi derbyn adroddiadau bod dynes 51 oed o ardal Aberhonddu ar goll tua 10.30yh nos Lun, 30 Tachwedd.

Yn fuan wedyn, cafwyd adroddiadau bod dynes wedi cael ei gweld yn yr afon.

Bu swyddogion arbenigol o’r Gwasanaeth Tân, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Cymorth Hofrennydd Gwylwyr y Glannau a Heddlu Dyfed Powys yn rhan o’r chwilio ac fe fyddan nhw’n parhau a’u gwaith bore ma.

Yn y cyfamser, wrth i law trwm barhau i effeithio rhan helaeth o ffyrdd y canolbarth, mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio gyrwyr i beidio teithio, oni bai bod y daith yn un gwbl hanfodol.

Yn ôl yr heddlu, mae sawl ffordd ym Mhowys o dan ddŵr a does dim modd eu pasio, yn enwedig yr A483 yn y Trallwng a Four Crosses, yr A495 o Feifod i Lanymynech a’r ardal o gwmpas Llanfair ym Muallt.

Roedd nifer o ymwelwyr i’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd neithiwr wedi cael trafferthion gadael y safle am fod y meysydd parcio dan ddŵr. Fe fydd y ffair ar agor yn ol yr arfer heddiw gan fod y dŵr bellach wedi cilio, meddai’r trefnwyr.

Mae’r amodau gyrru ledled y sir yn beryglus, ond os oes rhaid mynd allan, mae’r heddlu yn galw ar bobol i gymryd sylw o arwyddion ffyrdd sy’n nodi bod ffordd ar gau neu dan dŵr.

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n derbyn adroddiadau o bobol yn anwybyddu’r arwyddion hyn ac yna’n mynd i drafferthion mewn dŵr dwfn.

“O achos y problemau hyn, mae’r gwasanaethau argyfwng yn brysur iawn, felly rydym yn galw ar y cyhoedd i helpu i ddiogelu eu hunain drwy wrando ar ein cyngor,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor drwy ddilyn Heddlu Dyfed Powys ar Twitter @DyfedPowys, neu’r wefan Traffig Cymru www.traffic-wales.com.