Mae dyn lleol wedi marw ar ôl iddo fod mewn damwain ffordd ar yr M48 yng Nghas-gwent ddoe.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw am tua 2.25yb bore dydd Sul, 29 Tachwedd  yn dilyn adroddiadau bod gwrthdrawiad oedd yn cynnwys un cerbyd wedi digwydd ar Gyffordd 2 ar y draffordd.

Roedd y dyn oedd yn gyrru’r cerbyd yn dod o ardal Cil-y-coed. Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw o’i anafiadau.

Mae’r heddlu’n dweud bod ei deulu bellach yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae swyddogion sy’n ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi’i weld i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu 74 29/11/15.