Y Metro
Mae cynllun “uchelgeisiol” i greu system drafnidiaeth integredig a thrawsnewidiol yn y De wedi dod gam yn nes heddiw, wrth i’r Prif Weinidog lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd ar gyfer y Metro newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafwyd adborth “hynod gadarnhaol” gan y diwydiant trafnidiaeth am gynllun y Metro ac mae llawer o’r prif gwmnïau yn dangos “diddordeb mawr” yn y prosiect.

Byddai’r cynllun yn dod â chludiant cyflymach a mwy rheolaidd i Dde Cymru drwy gyfuniad o drenau trwm, trenau ysgafn a bysiau cyflym. Bydd gwelliannau eraill i’r seilwaith hefyd, a system docynnau integredig newydd, meddai’r Llywodraeth.

‘Uchelgeisiol’

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym Mhontypridd heddiw i lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o brosiect y Metro cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ddechrau’r flwyddyn nesa:

“Prosiect y Metro yw dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn y De-ddwyrain,” meddai. “Bydd yn rhoi amseroedd teithio cyflymach a gwasanaethau mwy rheolaidd dros ardal ehangach. Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a fydd yn cysylltu pobl â’u swyddi ar draws y De drwy rwydwaith sy’n gyflym, yn effeithlon ac yn bositif i’r amgylchedd.

“Mae’r Metro’n llawer mwy na phrosiect trafnidiaeth. Bydd yn gatalydd ar gyfer trawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol y De-ddwyrain a’r wlad gyfan.”

‘Cynnal adfywiad a thwf’

Dywedodd Terry Morgan, cadeirydd prosiect Crossrail y bydd prosiect y Metro’n “trawsnewid Dinas-ranbarth Caerdydd drwy ddarparu capasiti trafnidiaeth ychwanegol, amseroedd teithio byrrach a chyfleoedd newydd i deithio o le i le. Bydd y Metro’n cynnal adfywiad a thwf De Cymru ac yn datgloi potensial economaidd yr ardal.”

Byddai rheilffyrdd y Metro’n cael eu rhedeg a’u rheoli gan gwmni di-ddifidend fel rhan o fasnachfraint rheilffordd Cymru gyfan. Caiff y cwmni hwnnw ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r fasnachfraint ar ei rhan ar ôl 2018.