Mae Pont Hafren yr M48 ynghau i’r gorllewin yn dilyn damwain ddifrifol.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad rhwng cyffordd 1 (Aust) a chyffordd 2 (Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy) yn oriau man fore Sul.

Mae disgwyl i’r bont fod ynghau tan y prynhawn yma wrth i’r bont gael ei harchwilio am ddifrod.