Golwg bellach gan Huw Prys Jones ar yr arolwg o’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ddydd Iau

 Un sir yn unig sydd â mwyafrif o’i phoblogaeth yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac nid yw siaradwyr Cymraeg rhugl yn cyfrif ond am 11 y cant o boblogaeth Cymru.

Hyn ydi cyd-destun sylfaenol y môr o ystadegau a geir yn yr arolwg o’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae’n ymhelaethu ar arolwg a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni, gan roi darlun rhannol o’r sefyllfa o fewn gwahanol siroedd Cymru, yn ogystal ag yn genedlaethol. Mae rhagor am yr adroddiad hwnnw i’w weld yn yr erthygl hon.

Mae hefyd yn dilyn arolwg tebyg a wnaed yn 2004-06, ac felly’n rhoi arwydd inni o rai o dueddiadau’r ddegawd ddiwethaf.

Gan mai arolygon ar sail samplau yw’r rhain, mae’r adroddiad yn nodi nad y bwriad ydi creu amcangyfrifon newydd am y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg, gan gydnabod mai ffigurau Cyfrifiad 2011 yw’r ffynhonnell fwyaf awdurdodol o wybodaeth.

Yr hyn y mae’n ei ychwanegu at ffigurau’r Cyfrifiad ydi gwybodaeth am y graddau y gall pobl siarad Cymraeg, a hefyd y graddau y maen nhw’n ei defnyddio.

*   *   *

Mae’n dangos newidiadau mwy dramatig na’r Cyfrifiad, yn enwedig o ran cynnydd sylweddol o 130,700 o bobl sy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg, ond ddim yn rhugl, rhwng 2004-06 a 2013-15, sef dyddiad yr arolwg diweddaraf.

Aros yn bur sefydlog, ar y llaw arall, a wnaeth y cyfanswm o 318,800 sy’n siarad Cymraeg yn rhugl dros y cyfnod hwn, er bod y ganran wedi gostwng o 12% i 11% yn sgil y cynnydd cyffredinol mewn poblogaeth.

Pan edrychwn ar niferoedd y siaradwyr rhugl fesul sir, mae yna arwyddion o batrymau sy’n peri pryder.

Collodd tair o siroedd y gogledd gyfrannau sylweddol o’u Cymry rhugl rhwng 2004-06 a 2013-15 –  collodd Sir Fôn 9%, Conwy 11% a Sir Ddinbych 14%. Collwyd 2,100 yng Ngwynedd  – yr unig sir lle maen nhw’n dal i ffurfio mwyafrif o’r boblogaeth – hefyd, er bod y niferoedd llawer mwy sydd yno’n golygu mai 3% yw’r gostyngiad o’i fynegi fel canran o’r cyfanswm a oedd 10 mlynedd yn ôl.

O symud i Geredigion a Sir Gaerfyrddin, dydi’r colledion ddim yn ymddangos cyn waethed â’r hyn a gafwyd yn y Cyfrifiad diwethaf.

Collodd Ceredigion 600 o siaradwyr Cymraeg rhugl (2.2%) a chollodd Sir Gaerfyrddin 2,000 (3.7%) o gymharu â’r arolwg diwethaf. Dylid nodi fodd bynnag, fod Sir Gaerfyrddin yn cychwyn o sail weddol isel yn 2004-06,  a rhaid nodi hefyd mai llai na thraean o boblogaeth y sir sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae Powys, ar y llaw arall, yn dangos cynnydd sylweddol o dros 20% yn nifer y Cymry rhugl – cynnydd nad oes unrhyw adlewyrchiad ohono yn ffigurau’r Cyfrifiad.

Caerdydd ydi’r lle sy’n dangos y cynnydd mawr – 7,100 neu 48% ar ben nifer y siaradwyr rhugl yn 2004-06 – ac sy’n llawer mwy dramatig na’r hyn sydd yn y cyfrifiad.

Cawn gynnydd sylweddol o 5,300 neu 47% yn Rhondda Cynon Taf hefyd.

Ar y llaw arall, dydi’r patrwm yma ddim yn cael ei ailadrodd drwy holl siroedd y de-ddwyrain, gyda gostyngiad o 2,500 (21%) yng Nghastell Nedd Port Talbot a 700 (14%) ym Mro Morgannwg.

Mae rhai o’r amrywiadau mwyaf i’w gweld yn rhai o siroedd lleiaf y de-ddwyrain, gyda gostyngiad o 25% ym Merthyr, Blaenau Gwent yn aros yr un fath, a chynnydd o 50% yn Nhorfaen. Gan fod y niferoedd o siaradwyr Cymraeg rhugl yn fach yn y siroedd hyn efallai fod angen cymryd mwy o ofal ohonyn nhw.

*   *   *

Un o’r pethau sy’n gwneud yr adroddiad fwyaf anodd i’w ddarllen ydi’r gormodedd o ystadegau sydd ynddo, a llawer o’r rheini ynglŷn a materion lle na ellir gweld unrhyw arwyddocâd ystyrlon iddynt.

Mae’n rhoi llawer o sylw ac yn cynnwys llawer o graffiau ar ffigurau sy’n ymwneud, er enghraifft, â siaradwyr Cymraeg rhugl fel canrannau o’r cyfanswm sy’n siarad Cymraeg.

Anodd gweld pa werth sydd i ffigurau o’r fath. Gan fod yr arolwg yn dangos cynnydd mawr yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg, ond heb fod yn rhugl, mae’n dilyn wrth reswm bod y ganran sy’n rhugl yn mynd yn llai.

Byddai wedi bod yn ddiddorol hefyd gweld dadansoddiad oedrannau siaradwyr Cymraeg fesul siroedd, ond esbonir nad yw’r samplau yn ddigon mawr i ddangos popeth sy’n cael ei ddangos ar lefel genedlaethol.

*   *   *

Gwelwn batrymau tebyg o ran y canrannau o’r siaradwyr Cymraeg sy’n siarad yr iaith bob dydd. (Mae’r rhain wedi eu cymryd allan o’r cyfanswm o bawb sy’n siarad Cymraeg, nid y siaradwyr rhugl yn unig.)

Mae gostyngiadau ym mhob un o’r siroedd Cymreicaf yn y canrannau sy’n siarad Cymraeg bob dydd. Mae’r ganran i lawr o 90% i 85% yng Ngwynedd, o 87% i 77% ym Môn, o 81% i 73% yng Ngheredigion ac o 80% i 71% yn Sir Gaerfyrddin. Cafwyd gostyngiadau sylweddol hefyd yng Nghonwy (o 66% i 56%), Sir Ddinbych (57% i 48%), Castell-nedd Port Talbot (62% i 48%).  Unwaith eto, mae’r cynnydd mwyaf sylweddol i’w weld yng Nghaerdydd (o 44% i 48%) a Rhondda Cynon Taf (o 35% i 43%).

*   *   *

Gan mai arolwg ar sail sampl ydi hwn, mae’n bwysig osgoi gor-ymateb i unrhyw ystadegau unigol sydd ynddo. Ar y llaw arall, mae’n dangos rhai tueddiadau na ellir eu hanwybyddu.

Mae’n cadarnhau bod y Gymraeg yn colli tir mewn llawer rhan o Gymru, gan gynnwys rhai o’i chadarnleoedd. Mae hefyd yn awgrymu bod cryn dipyn o’r siaradwyr Cymraeg rhugl hyn yn cael eu colli i Gaerdydd (er y dylid ychwanegu nad ydi’r ystadegau ynddyn nhw eu hunain yn profi hyny).

Ar yr un pryd, mae’r ystadegau’n dangos pwysigrwydd allweddol y siroedd Cymreiciaf i barhad y Gymraeg o safbwynt y defnydd a wneir ohoni.

Mae dros hanner y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd, a chyfran uwch fyth o siaradwyr Cymraeg rhugl, yn byw yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Mae’r gyfran o siaradwyr Cymraeg sy’n siarad yr iaith bob dydd yng Ngwynedd yn agos at fod ddwywaith yr hyn yw yng Nghaerdydd, a phedair gwaith yr hyn yw yng Nghasnewydd. Y casgliad clir y mae’n rhaid ei dynnu o hyn yw bod unrhyw golledion o’r cadarnleoedd i Gaerdydd yn ergyd uniongyrchol i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn ogystal ag i Gymreictod yr ardaloedd hynny.

Heb ddiystyru o gwbl werth y cynnydd yn y niferoedd sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, mae’n amlwg na all unrhyw iaith oroesi heb gynnal niferoedd ei siaradwyr rhugl.

Ac o weld mai mewn un sir yn unig y mae’r siaradwyr rhugl hyn yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth, mae pwysigrwydd Gwynedd i hyfywedd yr iaith yn gwbl amlwg. Mae’n sicr y byddai’r Gymraeg mewn sefyllfa bur druenus petai’r 11 y cant ohonom wedi cael ein gwasgaru’n weddol gyfartal ledled Cymru.

Rhaid gofyn felly a ydi Gwynedd yn cael y flaenoriaeth haeddiannol ar hyn o bryd yn yr ymdrechion cenedlaethol i gynnal y Gymraeg.

Dolen at yr adroddiad llawn