Leanne Wood (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae gormod o gwestiynau’n dal heb eu hateb i Blaid Cymru allu cefnogi gweithredu milwrol yn Syria, yn ôl yr arweinydd Leanne Wood.

“Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddai’n gwrando ar ddadleuon y Prif Weinidog dros i Brydain weithredu yn erbyn IS,” meddai.

“O’r cychwyn, mae Plaid Cymru wedi mynnu na ellid ystyried ymyrraeth filwrol gan Brydain ond yng nghyd-destun cynllun heddwch rhyngwladol i Syria, un sy’n cynnwys ennill yr heddwch yn ogystal â threchu IS yn fliwrol.

“Mae Plaid Cymru wedi mynnu hefyd fod cefnogaeth lawn gan y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys cynnig Pennod VII, yn hanfodol.

“Mae’r Prif Weinidog wedi methu â chyflawni hyn.”

Ychwanegodd fod Plaid Cymru’n galw am ymrwymiadau eraill cyn y gallai gefnogi ymyrraeth filwrol, a’r rheini’n cynnwys:

  • cefnogaeth i bobl gyffredin Syria sy’n dioddef o achos y rhyfel
  • pwysau ar Sawdi Arabia ac eraill sy’n ariannu IS
  • cymorth i’r rheini sy’n amddiffyn eu hunain rhag IS, fel ymladdwyr Peshmerga y Cwrdiaid
  • ymrwymiad gan Twrci i roi’r gorau i ymosod ar y Cwrdiaid.

“Oni all y Prif Weinidog ateb yr holl gwestiynau sydd heb eu hateb a chyflwyno cynllun mwy cynhwysfawr, ni all Plaid Cymru cefnogi gweithredu milwrol,” meddai.