(llun: PA)
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi galw ar y cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ffliw cyn gynted â phosib.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ffliw wedi cyrraedd Cymru, gydag 17 achos wedi’i gadarnhau hyd yn hyn, o gymharu â chwech ar yr un pryd y llynedd.

Mae meddygon yn pryderu bod llai o bobl hyd yma eleni wedi manteisio ar eu cyfle i gael brechiad ffliw rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd. Dim ond 59% o bobl 65 oed a throsodd a 39% o bobl iau a chanddynt ffactorau risg ffliw sydd wedi cael  eu brechu, ac mae’r niferoedd yn y ddau grŵp yma’n is na’r un pryd y llynedd.

Meddai’r Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ystadegau sydd ar gael hyd yn hyn eleni yn destun pryder – gwelsom fwy o achosion wedi’u cadarnhau o ffliw, ond mae llai o bobl wedi cael y brechlyn. Mae hwn yn gyfuniad pryderus iawn.”

Er ei fod yn cydnabod nad oedd brechlyn y llynedd mor effeithiol ag arfer, mae’n pwysleisio nad yw hyn yn rheswm dros beidio â’i gymryd.

“Cael y brechiad ffliw yw’r amddiffyniad gorau rhag ffliw o hyd, ac rwyf yn pwyso’n drwm ac o ddifrif ar bawb mewn grwpiau iechyd risg allweddol i’w gael yn awr, os na wnaethant yn barod,” meddai.

“Gan amlaf mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad rhag tri math gwahanol o firws ffliw, ac fe welsom y tri math yma o ffliw yn barod yng Nghymru yn ystod yr hydref hwn. Hyd yn hyn, nid ydym ond wedi gweld lefelau isel o ffliw ac mae nifer yr achosion fel arfer yn codi rhwng y cyfnod yma â’r Nadolig, sy’n golygu fod amser i gael eich brechlyn o hyd.”