Owain Williams
Mae Llais Gwynedd wedi colli sedd arall ar Gyngor Gwynedd ar ôl i ymgeisydd annibynnol guro’r blaid mewn isetholiad ddoe.

Bu’n rhaid cynnal isetholiad yn ne Pwllheli yn dilyn  marwolaeth Bob Wright o Lais Gwynedd ym mis Medi.

Yn gynharach eleni fe gollodd Llais Gwynedd dri chynghorydd sir wrth i Simon Glyn, Gweno Glyn a Gruffydd Williams adael am Blaid Cymru, cam y mae arweinydd Llais Gwynedd wedi’i ddisgrifio fel “cael cyllell yn ein cefn”.

Fe wnaethon nhw golli sedd arall yr wythnos ddiwethaf hefyd ar ôl i Blaid Cymru eu curo mewn isetholiad.

Yn dilyn yr etholiad diwethaf i’r cyngor sir ym mis Mai 2012 roedd gan Lais Gwynedd 13 o gynghorwyr, ond mae’r nifer bellach lawr i wyth.

Hefin Underwood enillodd  isetholiad de Pwllheli ddoe gyda 269 o bleidleisiau, gydag ymgeisydd Llais Gwynedd, Peta Merrian Pollitt, yn cael ei wthio i’r pedwerydd safle gyda 49 o bleidleisiau.

Alan Williams o Blaid Cymru ddaeth yn ail gyda 168 o bleidleisiau a daeth ymgeisydd annibynnol arall, Michael Parry, yn drydydd gyda 106 o bleidleisiau.

Mynnu nad yw Llais Gwynedd yn colli cefnogaeth

Er gwaethaf y canlyniad, mae arweinydd Llais Gwynedd yn mynnu nad yw ei blaid wedi colli cefnogaeth gan ddweud bod etholiadau o’r math hyn yn “aml iawn yn dibynnu ar unigolion a phersonoliaethau”.

“Roedd [Hefin Underwood] yn dŵad o’r un rhan o’r dre ag ymgeisydd ni lle mae yna lawer iawn o ystadau tai, ac yn amlwg oedd y bachgen yma’n boblogaidd iawn i fynd a’r sedd a da ni’n ei longyfarch o am wneud hynny,” meddai Owain Williams.

Ymosododd ar Blaid Cymru hefyd gan ddweud nad oedd y noson yn ganlyniad da iawn iddi hithau.

“Roedden nhw wedi gwario lot mwy o arian yna ni ar yr ymgyrch ac wedi mynd allan am chwech y bore [ddoe] yn stwffio pamffledi i ddrysau pobol, a’u deffro. Tydan ni ddim yn gwneud pethau fel hynny.”

Yma o hyd

Yn ôl Owain Williams, mae ei blaid wedi gwneud gwahaniaeth i bobol Gwynedd ac yr un mor berthnasol ag erioed.

“Bydd etholiadau’r Cyngor Sir mewn blwyddyn a hanner a byddwn ni’n ymladd mwy nag erioed o’r blaen am fwy o seddi,” meddai.

“Tydan ni’m yn mynd i nunlle – ond yn ein blaenau gobeithio.”