Mae un o brif undebau addysg Cymru wedi mynegi pryder ynghylch toriadau sydd i ddod yn dilyn Adolygiad Gwariant Llywodraeth San Steffan echdoe.
Dywedodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) fod cynghorau sir Cymru wedi rhybuddio ysgolion i baratoi am doriadau o 16% dros dair blynedd.
Yn ôl Elaine Edwards, ysgrifennydd cyffredinol UCAC, yr unig ffordd i wneud arbedion ar y lefel honno yw drwy ddiswyddo staff – a hynny er bod nifer y disgyblion ar gynnydd.
Rhybuddiodd hefyd y bydd y toriadau yn debygol o roi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio’r cwricwlwm yn y fantol.
“Mwy o straen ar athrawon”
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Gwyddom yn barod fod Awdurdodau Lleol yn paratoi eu hysgolion am doriadau o tua 16% dros dair blynedd. Yr unig ffordd o wneud arbedion ar y lefel honno yw diswyddo staff – a hynny mewn cyfnod pan mae nifer y disgyblion ar gynnydd.
“Dosbarthiadau mwy o faint yw’r canlyniad amlwg – ond beth yw sgil effeithiau hynny? Llai o sylw i ddisgyblion unigol, mwy o straen ar athrawon, ac yn y pendraw, gostyngiad mewn safonau addysgol.”
Dim arian i hyfforddi?
Rhybuddia’r undeb y gallai rhai o ddatblygiadau Llywodraeth Cymru hefyd fod dan fygythiad yn sgil y toriadau.
“Rydym ar drothwy cyfnod cyffrous ym myd addysg Cymru, gydag ailwampiad llwyr o’r cwricwlwm a newidiadau pellgyrhaeddol i’r system anghenion dysgu ychwanegol” esbonia Elaine Edwards.
“Er mwyn gwneud llwyddiant o’r newidiadau hyn, rhaid cael gweithlu brwdfrydig, egnïol, a rhaid buddsoddi mewn hyfforddiant trylwyr i’r holl staff. Sut bydd hynny’n bosib gyda thoriadau o’r fath?
“I fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru amddiffyn y gyllideb addysg.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n ystyried goblygiadau’r adolygiad gwariant i Gymru cyn cyhoeddi eu cynlluniau gwario eu hunain ar gyfer 2016-17 yn y Gyllideb Ddrafft ar Ragfyr 8fed.