Cig oen (llun cyhoeddusrwydd o wefan Hybu Cg Cymru)
Fe fydd arolwg llawn yn cael ei gynnal o waith y corff sy’n gyfrifol am farchnata cig coch o Gymru, gyda’r posibilrwydd o newid yn ei waith.

Fe fydd hwnnw’n penderfynu pa mor dda y mae Hybu Cig Cymru yn gwneud ei waith ac a oes angen newid ei waith yn sylfaenol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad am yr adolygiad gan yr Is-Weinidog Amaeth Rebecca Evans yn y Cynulliad ac mae wedi addo y bydd y diwydiant amaeth yn cael llais llawn yn y gwaith.

Fe fydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Ionawr, gyda disgwyl adroddiad yn ystod haf 2016.

Hybu Cig Cymru – cefndir

Mae Hybu Cig Cymru’n eiddo i Lywodraeth Cymru ond yn gweithredu’n annibynnol wrth farchnata cig eidion a chig oed gartre’ a thros y byd ac wrth godi safonau yn y diwydiant.

Mae ei arian yn dod yn rhannol o lefi sy’n cael ei godi ar gynhyrchwyr a lladd-dai.