Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw wedi digwyddiad yng Nghasnewydd nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Clarence Place, Casnewydd tua 7.50yh nos Fawrth, 24 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod dau ddyn 36 a 28 oed wedi cael eu trywanu.

Bu farw Rhys Jones, 36, o Gasnewydd o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Mae dyn 28 oed yn parhau yn  y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Nid yw Heddlu Gwent yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.