Mae angen mwy o sylw i ymarfer corff a byw’n iach o fewn y system addysg, gan gynnwys nyrs i bob ysgol a choleg, er mwyn gwella iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Dyna oedd gan lefarydd Ceidwadwyr Cymru ar iechyd Darren Millar i’w ddweud heddiw wrth iddo siarad mewn cynhadledd i nodi 20 mlynedd ers creu’r Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymreig.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad y byddai ei blaid e’n creu Dirprwy Weinidog arbennig ar gyfer Iechyd Cyhoeddus, a gofyn i bob sir benodi Pencampwr Iechyd Cyhoeddus, petai’r Ceidwadwyr yn llywodraethu ar ôl yr etholiadau Cynulliad nesaf.

Mynnodd Darren Millar bod angen taclo anghyfartaledd o fewn iechyd yng Nghymru, a hynny wrth i ordewdra, ysmygu a lefelau diabetes gynyddu.

‘Peidiwch ei drin fel ôl-ystyriaeth’

Wrth gyhoeddi’r polisïau newydd mynnodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr bod angen gwneud llawer mwy i wella iechyd cyffredinol pobl yng Nghymru cyn iddyn nhw ddatblygu salwch.

Byddai hynny’n golygu mwy o addysg a chymorth i bobl ifanc er mwyn eu helpu i fyw’n iach, gyda swyddogion ar lefel llywodraethol i wneud i hynny ddigwydd.

Ac fe gyhuddodd y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd unwaith eto o dangyllido’r Gwasanaeth Iechyd a pheidio â rhoi digon o ystyriaeth i faterion iechyd cyhoeddus allai atal problemau rhag datblygu yn y lle cyntaf.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Cymru nesaf greu fframwaith sy’n darparu’r amodau ble gall pobl fod yn iach,” meddai Darren Millar.

“Mae rhaid i’n cymunedau gael digon o gefnogaeth i ganiatáu lefelau iechyd cyhoeddus i ffynnu. All iechyd cyhoeddus ddim bod yn ôl-ystyriaeth.”