Y Gwyll
Mae S4C wedi cael ei henwebu am wobr ddrama ryngwladol am yr ymgyrch farchnata i hyrwyddo cyfres ddiweddaraf Y Gwyll/Hinterland.

Bydd seremoni Gwobrau Drama Ryngwladol C21 Media yn cael eu cynnal yn Llundain ar nos Fercher 2 Rhagfyr, ac mae S4C yn gobeithio am ail fuddugoliaeth yn yr un categori wedi i’r sianel ddod i’r brig y llynedd.

Mae’r gyfres dditectif wedi’i lleoli yn anialwch cefn gwlad Ceredigion, ac wedi denu sylw rhyngwladol ar ôl cael ei gwerthu i ddarlledwyr dros y byd.

“Rydw i’n falch iawn bod tîm cyfathrebu S4C wedi sicrhau’r enwebiad rhyngwladol yma, a hynny am yr ail flwyddyn o’r bron,” meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones.

“Fel un o uchelfannau amserlen y sianel ar gyfer 2015, roedd hyrwyddo ail gyfres Y Gwyll yn galw am ymgyrch afaelgar a chreadigol ac fe lwyddwyd i ddal dychymyg y gwylwyr a chreu cynnwrf.”

“Dod â buddiannau economaidd” i Geredigion

Dywedodd hefyd fod y gyfres wedi dod â buddiannau economaidd yn lleol, “gyda S4C, Cymru a’r iaith Gymraeg yn ganolog i’r sylw rhyngwladol.”

“Mae llwyddiant y gyfres hon yn dangos yr effaith economaidd a diwylliannol bellgyrhaeddol sy’n deillio o fuddsoddiad S4C mewn cynnwys, a’r gwaith o’i hyrwyddo.”

Cafodd ail gyfres Y Gwyll/Hinterland ei hariannu gan S4C a BBC Cymru, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu; a chafodd ei chynhyrchu gan Fiction Factory.

Bydd y rhaglen yn dychwelyd am drydedd gyfres, gyda’r gwaith ffilmio yn dechrau yn ôl yng Ngheredigion ym mis Ionawr 2016.