Disgyblion Ysgol Tryfan a'r cyfarwyddwr Martin Thomas yn paratoi ar gyfer sioe Y Bancsi Bach
Nôl yn 2008 daeth cyfnod hanesyddol i ben gyda pherfformiad gan Ysgol Tryfan o West Side Story, wrth i Theatr Gwynedd ym Mangor gau ei drysau am y tro olaf.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, fe fydd cenhedlaeth newydd o ddisgyblion yr ysgol uwchradd yn perfformio sioe newydd fydd yn un o’r cyntaf i gael eu dangos yng nghanolfan newydd Pontio.

Mae sioe gerdd ‘Y Bancsi Bach’, fydd yn cael ei pherfformio rhwng 9 a 11 Rhagfyr, yn addasiad o nofel gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan.

Bydd bwlio yn un o brif themâu’r cynhyrchiad gyda’r prif gymeriad, bachgen o’r enw Owen, yn cael amser caled gan gyd-ddisgyblion ac sydd yn dangos ei dalentau yn paentio graffiti.

‘Chwa o awyr iach’

Dychwelodd Tudur Dylan Jones i’r ysgol yn 2014 er mwyn cynnal gweithdai gyda’r disgyblion wrth baratoi ar gyfer y sioe gerdd.

Yn ôl y prifardd, daeth ysbrydoliaeth y nofel wreiddiol gan fachgen o Ysgol y Strade oedd wedi dweud wrtho ei fod wedi bod yn arlunio o amgylch y dref.

Ac fe ddywedodd yr awdur ei fod wedi mwynhau’r profiad o ddychwelyd i’w hen ysgol i weithio â’r disgyblion ar y sioe newydd yn fawr.


Chwsitrellu'r arwyddion
“Roedd cydweithio gyda’r disgyblion yn chwa o awyr iach i fi. Roedd eu syniadau a’u brwdfrydedd yn braf i’w weld, ond ddim yn sioc o gwbl o gofio am draddodiad enw da Ysgol Tryfan,” meddai Tudur Dylan.

“Mae yna newidiadau o’r nofel i’r sioe lwyfan, a syniadau’r disgyblion ydyn nhw. Roedden nhw’n gweld cyfleoedd nad oeddwn i ddim, ac wedi cyfrannu at sioe a fydd gobeithio yn diddanu, ac yn cyfleu neges.

“Mae’r gerddoriaeth yn rymus ac yn gafael, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at eistedd yn ôl yn Pontio i fwynhau perfformiad yr actorion, dawnswyr, y cantorion, a’r band.”

Trafod bwlio

Y Bancsi Bach fydd un o’r sioeau cyntaf i gael ei pherfformio yng nghanolfan newydd Pontio ym Mangor, agorodd ei drysau’n ddiweddar ar ôl trafferthion ac oedi wrth gael ei hadeiladu.

Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn cael eu hyfforddi ar gyfer y perfformiad gan yr actor a’r cyfarwyddwr Martin Thomas, gydag Owain Arwel Davies yn gyfrifol am gyfansoddi’r caneuon.


Y disgyblion yn ymarfer
Yn ôl Tudur Dylan, roedd trafod thema bwlio yn bwysig iawn iddo wrth weithio ar ei nofel ac yna’i haddasu ar gyfer y sioe.

“Y peth dwi’n ei gasáu fwyaf fel athro ydy gweld plant yn cael eu bwlio,” meddai.

“Mae bwlio’n gallu digwydd mewn sawl ffurf. Gall fod yn gorfforol, yn eiriol, yn emosiynol, ac un o’r rhai gwaethaf yw anwybyddu. Mae gweld plentyn ar ei ben ei hun yn ystod awr ginio, amser egwyl ac mewn gwersi yn gallu torri calon.

“Neges y nofel ydy fod gan bawb allu, ac na ddylen ni fod yn gwneud bywydau pobl eraill yn uffern oherwydd ein rhagfarnau ni.”
Y disgyblion yn ymarfer