Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi awgrymu na fyddai Llywodraeth Cymru’n rhuthro i newid cyfraddau treth incwm petaen nhw’n cael eu datganoli.

Cododd Brif Weinidog Cymru gwestiynau hefyd ynglŷn â phryd y byddai’r Cynulliad yn gweld pwerau o’r fath yn cael eu datganoli.

Wrth ymateb i’r Adolygiad Gwariant yn San Steffan ddoe fe fynnodd arweinydd Llafur Cymru nad oedd cyllido teg i Gymru wedi cael ei sicrhau yn yr hir dymor eto chwaith.

Ychwanegodd nad oedd yn credu bod y Ceidwadwyr yn poeni am ddyfodol S4C yn sgil y toriad diweddaraf i gyllideb y sianel Gymreig.

Ansicrwydd hir dymor

Ddoe fe gyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai rhai pwerau dros dreth incwm yn cael eu datganoli i Gymru heb fod angen am refferendwm.

Dywedodd y Canghellor y byddai hefyd yn cyflwyno ‘llawr’ cyllido i Gymru, fyddai’n golygu na fyddai gwariant yng Nghymru  yn cwympo’n is na 115% o’r hynny oedd yn cael ei wario yn Lloegr.

Croeso llugoer gafwyd i’r cyhoeddiadau hynny gan Carwyn Jones fodd bynnag.

“Bydden i o blaid datganoli trethi incwm mewn egwyddor, os bydd y sylfaen cyllido yn cael ei ddelio gyda,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae hynny wedi digwydd i raddau efo’r ‘llawr’, ond dyw hwnna ddim ond yn para yn ystod y Senedd hon, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl hynny.”

Barnett yn ‘warthus’

Mynnodd Carwyn Jones nad oedd y ‘llawr’ cyllido a gafodd ei gyhoeddi yn mynd i’r afael â phroblemau hanesyddol fformiwla Barnett a sicrhau tegwch ariannol.

“Byddai sicrwydd yn cael ei roi drwy gael gwared â fformiwla Barnett … sydd erbyn hyn yn warthus,” meddai.

“Dyw e ddim yn warant o faint o arian fydd ar gael yn y dyfodol … os yw’r arian i Loegr yn mynd lawr bydd arian i Gymru’n mynd lawr hefyd.”

Cam gwag McDonnell

Croesawodd Carwyn Jones rai o gyhoeddiadau eraill y Canghellor fel y tro pedol ar dorri credydau treth, gan herio’r Ceidwadwyr ar faterion eraill fel cyllid S4C.

Ac fe gyfaddefodd arweinydd Llafur Cymru bod canghellor cysgodol ei blaid, John McDonnell, wedi gwneud cam gwag wrth ddyfynnu o lyfr coch yr arweinydd Comiwnyddol Mao Tse Tung yn ei ymateb i’r Adolygiad Gwariant.

“Dyle fe ddim wedi’i wneud e achos dyna i gyd mae pawb yn siarad amdano nawr,” cyfaddefodd Carwyn Jones.

“Beth sy’n bwysig yw canolbwyntio ar beth sydd wedi’i ddweud yn hytrach na beth sydd wedi’i wneud.”