Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo penderfyniad y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i dorri cyllideb S4C o £1.7m fel “sarhad i Gymru”.

Fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ddoe yn Natganiad yr Hydref y Canghellor y byddai cyllideb y sianel, sydd yn cael ei hariannu’n uniongyrchol o San Steffan, yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2020, cwymp o 26%.

Mae’r penderfyniad hefyd wedi cael ei feirniadu gan Gymdeithas yr Iaith, sydd wedi cyhuddo’r Torïaid o “ddweud celwydd wrth bobl Cymru”.

Cafodd hyd yn oed rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol eu cythruddo, gydag AS Aberconwy Guto Bebb yn herio’i blaid a dweud bod “dim cyfiawnhad” am y “cam gwag”.

S4C a rheilffyrdd

Mynnodd Plaid Cymru bod penderfyniad diweddaraf y Ceidwadwyr ar gyllido S4C yn dangos yr angen i ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru.

“Nid yn unig mae Llywodraeth y DU yn gwneud toriad sylweddol i wasanaeth gwerthfawr a phwysig, maent hefyd yn gwneud tro pedol amlwg ar ymrwymiad maniffesto etholiadol,” mynnodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts.

“Mae’r newid hwn yn sarhad i Gymru ac yn dangos diffyg ymrwymiad y Llywodraeth Geidwadol i’r Gymraeg ac i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.”

Mynnodd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards bod y Ceidwadwyr hefyd yn torri addewid maniffesto arall wrth gyhoeddi na fydd rheilffyrdd de Cymru’n cael eu trydaneiddio nes rhywbryd rhwng 2019 a 2024.

“Heb os bydd nifer nawr yn amau a fydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fyth yn cwblhau’r trydaneiddio i Abertawe, rhywbeth a fyddai’n siom fawr i economi gorllewin ein gwlad,” meddai Jonathan Edwards.

Protest

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddan nhw’n cynnal protest yng Nghonwy ddydd Sadwrn 28 Tachwedd yn erbyn y toriad diweddaraf i gyllideb S4C.

Ychwanegodd y mudiad ei bod hi’n annheg torri cyllideb y sianel Gymreig o £1.7m ar yr un pryd ag oedd £150m ychwanegol yn cael ei wario ar storfeydd newydd ar gyfer amgueddfeydd yn Lloegr.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru,” meddai cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan.

“Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i’w haddewid.”

‘Diffyg calon’

Mae’r toriad i gyllideb S4C hefyd wedi cythruddo Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy Guto Bebb.

Mewn cyfres o negeseuon Twitter nos Fercher fe heriodd benderfyniad ei blaid gan ofyn pam oedd chwaraeon a chelfyddydau yn Lloegr yn cael eu ffafrio dros sianel deledu Cymru.

Ychwanegodd bod arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dangos “ddiffyg calon” dros ddyfodol sianel gafodd ei sefydlu â sêl bendith eu cyn arweinydd Margaret Thatcher.