Heddlu De Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn
Mae dynion yn cael eu hannog heddiw i siarad am drais yn erbyn menywod ac ymgyrchu dros gydraddoldeb i fenywod fel rhan o ymgyrch i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

Mae’r ymgyrch yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn sy’n hyrwyddo’r neges o beidio â chyflawni, goddef nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.

Bydd Sefydliad y Merched yng Nghymru yn nodi’r diwrnod drwy gynnal trafodaeth yn y Senedd a gwylnos ar risiau’r Cynulliad.

Bydd y drafodaeth a fydd yn cael ei chadeirio gan Joyce Watson AC a ddechreuodd  ymgyrch y Rhuban Gwyn yng Nghymru ddeng mlynedd yn ôl, hefyd yn cynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC.

Bydd Rhian Bowen Davies, Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac Ann Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru hefyd yn cymryd rhan.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn yr wylnos yn ogystal â Rachel William, sydd bellach yn ymgyrchu i gefnogi merched sy’n dioddef cam-drin domestig ar ôl cael ei saethu gan ei gŵr yn 2011.

1 o bob 4 menyw yn dioddef trais domestig

Mae’r digwyddiadau yn rhan o ymgyrch Sefydliad y Merched, ‘Nid yn fy Enw i’, sy’n ceisio recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i siarad yn gyhoeddus am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

“Bydd un o bob pedair menyw yng Nghymru yn cael profiad o gam-drin domestig dan law partner yn ystod eu bywydau, a bydd 150,000 o fenywod yn dioddef rhyw fath o drais ar sail rhyw,” meddai Ann Jones, cadeirydd y sefydliad.

“Mae’n rhaid i ddynion fod yn rhan o’r ateb i herio’r agweddau ac ymddygiad lleiafrif o ddynion sy’n defnyddio neu’n goddef trais yn erbyn menywod.”

‘Hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn’

Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi nodi diwrnod y Rhuban Gwyn drwy recriwtio 24 o ‘Hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn’ i gefnogi’r gwaith o ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

Bydd swyddogion a staff yr heddlu hefyd yn gorymdeithio o’u swyddfeydd yng nghanol Caerdydd i Eglwys Gadeiriol Llandaf lle fydd gwasanaeth aml-grefydd blynyddol yn cael ei gynnal.

Bydd yr hyrwyddwyr newydd yn cael hyfforddiant gan ymarferydd iechyd i’w helpu i nodi menywod a merched sy’n agored i niwed a deall y ffordd orau o ymyrryd.

Mae’r hyfforddiant bellach yn cael ei gynnig i bob swyddog newydd ac yn ôl yr heddlu, fe fydd ar gael i bob swyddog Heddlu De Cymru yn y dyfodol.

“Yn draddodiadol, merched sydd wedi bod yn gyfrifol am ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Ond o ystyried mai dynion yw’r prif droseddwyr… rydym wedi recriwtio dynion o fewn Heddlu De Cymru i yrru’r ymgyrch hwn ymlaen,” meddai Sophie Howe, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

“Drwy alluogi ein swyddogion gwrywaidd i siarad yn erbyn trais yn erbyn menywod ac ymgyrchu dros gydraddoldeb i fenywod, gallwn helpu menywod i fyw heb drais ac ofn.”