Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i weddillion corff dyn gael eu darganfod ar dir bloc o fflatiau ym Meddau, Rhondda Cynon Taf ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Trem-Y-Cwm House tua 1yp dydd Mawrth ar ôl i’r gweddillion gael eu darganfod.

Roedd corff y dyn – sydd heb gael ei adnabod – wedi ei guddio mewn gorchudd plastig ar y tir yn yr ardal o gwmpas y fflatiau.

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Paul Hurley bod y farwolaeth yn amheus a’u bod yn ei thrin fel achos llofruddiaeth.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n siarad efo unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad yma – unrhyw un sy’n meddwl eu bod nhw’n gwybod rhywbeth allai helpu ein hymchwiliad.

“Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd a phryderon am ddiogelwch perthynas neu gymydog sydd, yn annisgwyl, heb gael eu gweld ers rhai wythnosau, i gysylltu â ni.

“Ein blaenoriaeth yw ceisio adnabod y corff a darganfod sut y bu farw’r dyn,” meddai.

Mae arbenigwyr fforensig yn ceisio adnabod y corff ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod sut y bu farw’r dyn.

Dylai unrhyw un  sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 01656 306099 gan nodi’r cyfeirnod 1500435794 neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.