Mae dyn 18 oed o Lanelli wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i’r ymosodiad seibr ar gwmni TalkTalk, meddai Heddlu’r Metropolitan.

Y dyn yw’r pumed person i gael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Cafodd ei arestio ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch ar eiddo yn Llanelli ddydd Mawrth ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa gan Heddlu Dyfed Powys ar amheuaeth o flacmel.

Mae pedwar o bobl eraill eisoes wedi cael eu harestio yn ystod yr ymchwiliad gan gynnwys bachgen 15 oed o Ogledd Iwerddon a gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Cafodd dau fachgen 16 oed a dyn 20 oed hefyd eu harestio ers yr ymosodiad seibr fis diwethaf.

Yn ystod yr ymosodiad fe lwyddodd yr hacwyr i gael manylion 156,959 o gwsmeriaid a 15,656 o fanylion cyfrifon banc.

Dyma oedd y trydydd ymosodiad seibr ar TalkTalk o fewn wyth mis, gyda digwyddiadau ym mis Awst a Chwefror.

Mewn datganiad dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae swyddogion yn ymchwilio ar ôl i rywun anfon neges at TalkTalk yn honni eu bod yn gyfrifol am gynnal yr ymosodiad seibr ac yn mynnu arian gan y cwmni ffonau a band eang. Dywedodd y cwmni nad oedd yn siŵr os oedd y neges yn ddilys.