Un o'r llongau tanfor sy'n cario taflegrau Trident (bodgebrooks CCA2.0)
Mae yna dri aelod seneddol Llafur o Gymru wedi gwrthryfela yn erbyn eu harweinydd, Jeremy Corbyn, tros arfau niwclear Trident.

Fe wnaeth y tri anwybyddu gorchymyn i beidio â chymryd rhan mewn pleidlais oedd wedi ei galw gan blaid yr Alban, yr SNP.

Ac fe aeth Albert Owen, AS Ynys Môn; Madeleine Moon, Pen-y-bont ar Ogwr; a Chris Evans, Islwyn, yn groes i farn Jeremy Corbyn a phleidleisio tros adnewyddu’r taflegrau.

Y bleidlais

Yn ôl y disgwyl, roedd yna fwyafrif mawr yn Nhŷ’r Cyffredin o blaid adnewyddu gyda’r rhan fwya’ o aelodau Llafur yn cadw draw.

Ond roedd cyfanswm o 20 wedi cymryd rhan yn y bleidlais a rhai wedi siarad yn y ddadl hefyd.

Roedd 14 wedi pleidleisio o blaid adnewyddu a 6 wedi pleidleisio gyda’r SNP yn erbyn.

Fe fydd y Llywodraeth yn dod â chynnig i adnewyddu’r taflegrau y flwyddyn nesa’.