Arsene Wenger
Mae rheolwr Arsenal Arsene Wenger wedi galw ar yr awdurdodau pêl-droed i edrych eto ar broblem cyffuriau o fewn y gamp, gan ddweud bod y rheolau presennol mwy neu lai yn “derbyn dopio”.

Cafodd chwaraewr o Dinamo Zagreb, Arijan Ademi, ei wahardd am bedair blynedd ar ôl methu prawf cyffuriau wedi i’w dîm drechu Arsenal mewn gêm Ewropeaidd ym mis Medi.

Ond dyw’r rheolau presennol ddim yn cosbi unrhyw dîm, dim ond yr unigolyn dan sylw, oni bai bod dau neu fwy o chwaraewyr yn cael eu dal yn cymryd cyffuriau.

Cafodd Cymru eu dal mewn achos tebyg nôl yn 2003 ar ôl iddyn nhw gael eu trechu gan Rwsia mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Ewro 2004, er iddi ddod i’r amlwg yn hwyrach bod un o chwaraewyr Rwsia wedi methu prawf cyffuriau.

Temtasiwn

Yn ddiweddar fe gafodd dau chwaraewr rygbi o Gymru eu gwahardd o’r gamp am gymryd cyffuriau oedd wedi’u gwahardd, ac mae awgrym bod y broblem yn mynd yn llawer dyfnach na hynny.

Ond mae Arsene Wenger wedi awgrymu yn y gorffennol ei fod yn credu bod gan bêl-droed broblem dan yr wyneb â chyffuriau hefyd.

Mynnodd mewn cyfweliad diweddar â phapur L’Equipe nad oedd unrhyw un o’i dimau e wedi defnyddio cyffuriau, ond yn ôl y rheolwr mae tystiolaeth yn dangos bod y temtasiwn yno i rai.

“Os edrychwch chi ar brofion seicolegol sydd wedi cael eu gwneud ers 20 mlynedd mae’r temtasiwn yna’n naturiol,” meddai.

“Pan mae rhywun yn dod yn ail, a dw i’n siarad am athletau, does dim ond lle i un arwr – yr enillydd.”

Cymru’n colli lle

Cafodd Cymru eu cynddeiriogi degawd yn ôl ar ôl i UEFA benderfynu nad oedd ganddyn nhw hawl i gymryd lle Rwsia yn Ewro 2004, er bod un o’u chwaraewyr wedi methu prawf cyffuriau.

Roedd Yegor Titov wedi methu’r prawf cyffuriau ar ôl y cymal cyntaf, pan oedd yn eilydd ar y fainc, ond fe chwaraeodd yn yr ail gêm cyn i ganlyniadau’r prawf gael eu darganfod.

Mae UEFA yn mynnu eu bod yn dilyn canllawiau sydd wedi cael eu gosod gan asiantaeth World Anti-Doping a’u bod yn cynnal profion cyffuriau cyson ar chwaraewyr.

Ond gyda dim ond rhyw dri chwaraewr yn cael ei brofi ar ôl pob gêm fel arfer, yn ôl Arsene Wenger, mae angen ailystyried a yw disgwyl i ddau ohonynt fethu prawf cyffuriau cyn cosbi’r tîm yn briodol.

“Allwch chi ddim dweud bod ganddyn nhw chwaraewr oedd wedi dopio ond bod y canlyniad yn sefyll,” meddai.

“Mae hynny mwy neu lai’n dweud eich bod chi’n derbyn cymryd cyffuriau.”