Yn dilyn adroddiad beirniadol sy’n honni nad yw cyngor cymuned o sir Ddinbych yn gwneud digon i weithredu’n gyfan gwbl ddwyieithog – mae’r cyngor hwnnw wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n parhau i wrthod yr argymhellion.

Mae adroddiad a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, yn honni fod Cyngor Cymuned Cynwyd yn rhoi siaradwyr di-gymraeg “o dan anfantais” wrth ryddhau dogfennau yn y Gymraeg yn unig.

Fe ddywedodd Alwyn Jones-Parry, clerc Cyngor Cymuned Cynwyd wrth golwg360 y bore yma eu bod nhw’n “ymdrechu i wneud popeth yn ddwyieithog.”

Mae’n cydnabod mai “Cymraeg yw iaith gyntaf y Cyngor”, ond bod ganddyn nhw systemau cyfieithu ar waith ar gyfer ymwelwyr di-gymraeg.

“Ni wedi trio bod yn rhesymol”, meddai Alwyn Jones-Parry, gan ddweud nad oedden nhw’n barod i dderbyn yr argymhellion ar unwaith – “oherwydd natur y ffordd y gofynnwyd inni.”

Fe ddywedodd fod y Cyngor wedi derbyn fersiwn Saesneg o adroddiad terfynol yr Ombwdsman, ond nad ydyn nhw wedi derbyn copi Cymraeg hyd yn hyn. Fe ddywedodd y clerc eu bod nhw’n aros am fersiwn Cymraeg cyn ymateb i’r argymhellion.

Argymhellion

Fe gyflwynwyd cwyn i’r Ombwdsmon gan un sy’n aros yn anhysbys, ond yn cael ei chyfeirio ati fel ‘Mrs X’.

Mae ei chŵyn yn honni nad yw’r Cyngor wedi cyhoeddi dogfennau dwyieithog a bod hynny’n “ei heithrio hi rhag ymwneud â’r Cyngor gan nad yw hi’n siarad Cymraeg.”

Mae’r ymgynghori wedi parhau am dros flwyddyn a hanner rhwng yr Ombwdsmon â Chyngor Cymuned Cynwyd, gyda’r Ombwdsmon yn cynnig yr argymhellion canlynol i’r Cyngor:

–       ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs X am beidio â darparu dogfennaeth ddwyieithog.

–       ymrwymo i gyhoeddi’r holl agendâu, dogfennau a chofnodion yn ddwyieithog

–       mewn drafft cynnar o’r adroddiad, fe gynigiodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor yn talu £100 i Mrs X am “y drafferth a achoswyd iddi wrth fynd ar drywydd ei chwyn.” Ond, gwrthododd Mrs X y cynnig hwnnw.

Er hyn, mae Cyngor Cymuned Cynwyd yn parhau i wrthod yr argymhellion hyd nes y byddan nhw’n derbyn copi Cymraeg o’r adroddiad terfynol.

“Dw i’n teimlo dros y cynghorwyr i gyd yn hyn o beth. Maen nhw’n naw person sy’n gweithio’n wirfoddol dros yr ardal, ac wedyn mae rhywbeth fel hyn yn digwydd,” meddai Alwyn Jones-Parry.