Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett
Mae Cyngor Cymuned yn sir Ddinbych wedi’i feirniadu am weithredu yn y Gymraeg yn unig gan roi siaradwyr di-gymraeg “o dan anfantais”.

Dyna ganfyddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, wedi iddo dderbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd am “gyfathrebu gwael” rhwng Cyngor Cymuned Cynwyd â thrigolion lleol.

Fe wnaed y gŵyn gan un sy’n aros yn anhysbys ac yn cael ei chyfeirio ati fel ‘Mrs X’. Mae’r gŵyn yn honni fod y Cyngor wedi cyhoeddi hysbysiadau ac agendâu cyfarfodydd yn y Gymraeg yn unig.

Ychwanega Mrs X fod y Cyngor wedi “ei heithrio hi rhag ymwneud â’r Cyngor gan nad yw hi’n siarad Cymraeg.”

“Mae hynny’n camweinyddu a achosodd i Mrs X ddioddef anghyfiawnder,” meddai Nick Bennett, yr Ombwdsmon yn ei adroddiad swyddogol.

‘Cynnig argymhellion’

Fe ddywedodd Mrs X ei bod hi’n teimlo “fod y ffordd y mae’r Cyngor yn cynnal ei waith yn effeithio’n niweidiol ar ei gallu i gymryd rhan yn iawn mewn democratiaeth leol.”

Er bod yr Ombwdsman yn “derbyn yn llwyr ac yn cefnogi’r egwyddor fod gan y Cyngor yr hawl i gynnal ei fusnes drwy gyfrwng y Gymraeg” – mae hefyd yn cynnig argymhellion i’r Cyngor.

Mae’n nodi fod y Cyngor “wedi methu â gwneud darpariaeth ddwyieithog ysgrifenedig ddigonol ar gyfer Mrs X fel unigolyn sy’n deall Saesneg, ond nid y Gymraeg.”

Am hynny, mae’n cynnig fod Cyngor Cymuned Cynwyd yn ymddiheuro’n ysgrifenedig i ‘Mrs X’ am beidio â darparu dogfennaeth ddwyieithog.

Mae’n argymell y dylent ymrwymo i gyhoeddi’r holl agendâu, dogfennau a chofnodion yn ddwyieithog “os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.”

Mewn drafft cynnar o’r adroddiad, fe gynigiodd fod y Cyngor hefyd yn talu £100 i Mrs X er mwyn cydnabod “y drafferth a achoswyd iddi wrth fynd ar drywydd ei chwyn.” Ond, gwrthododd Mrs X y cynnig hwnnw.

Mae Cyngor Cymuned Cynwyd wedi gwrthod gweithredu’r argymhellion ac am barhau i weithredu yn y Gymraeg.

‘Iaith gyntaf y Cyngor’

Fe ddywedodd Alwyn Jones-Parry, clerc Cyngor Cymuned Cynnwyd wrth golwg360 y bore yma fod y cyngor yn “ymdrechu i wneud popeth yn ddwyieithog.”

Er hyn, mae’n cydnabod mai Cymraeg yw iaith gyntaf y Cyngor, ond bod ganddyn nhw system cyfieithu ar waith ymhob cyfarfod ar gyfer ymwelwyr di-gymraeg.

Fe ddywedodd fod y broses ymgynghori wedi parhau am 18 mis – “sy’n ormod”.

“Dy’n ni ddim yn barod i dderbyn yr argymhellion ar unwaith oherwydd natur y ffordd y gofynnwyd inni,” meddai Alwyn Jones-Parry.

“Rydan ni wedi trio bod yn rhesymol,” meddai gan ychwanegu fod y Cyngor wedi derbyn fersiwn Saesneg o adroddiad terfynol yr Ombwdsman yn unig.

“Dy’n ni ddim wedi derbyn y copi Cymraeg hyd yn hyn.”

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi gwahodd y sawl sydd wedi cwyno i’r cyfarfodydd, gan esbonio’r systemau cyfieithu sydd ar waith.

“Dw i’n teimlo dros y cynghorwyr i gyd yn hyn o beth. Maen nhw’n naw person sy’n gweithio’n wirfoddol dros yr ardal, ac wedyn mae rhywbeth fel hyn yn digwydd.”
‘Cywirdeb cyfreithiol’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu cywirdeb cyfreithiol adroddiad yr Ombwdsman wrth ymwneud â pholisi iaith y Cyngor.

“Mae’n aneglur a yw’r Ombwdsmon wedi deall y sefyllfa gyfreithiol yn iawn. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Iaith 1993, ac yn canolbwyntio ar ddehongli gweithredoedd y cyngor cymuned yn rhinwedd yr hen ddeddfwriaeth honno,” meddai Tamsin Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith.

Fe ychwanegodd fod egwyddorion deddfwriaeth 1993 wedi’u disodli gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

“Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Mae’r gyfraith a basiwyd yn 2011 yn sefydlu’r egwyddor newydd na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’n destun syndod nad oes cyfeiriad at yr egwyddor honno yn yr adroddiad, ac mae hynny’n codi cwestiynau am ddilysrwydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd.”

Fe ddywedodd y bydd y gymdeithas yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon yn gofyn iddo ail-ystyried ei safbwynt cyfreithiol.

“Os yw’r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau mae angen i ragor – nid llai – o gynghorau weithio’n Gymraeg,” meddai Tamsin Davies.