Bydd aelodau grwpiau iaith a grwpiau darlledu yn dod at ei gilydd yng Nghaernarfon nos Iau i drafod beth maen nhw’n ei alw’n ‘argyfwng darlledu Cymru.’

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddiwrnod ar ôl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi datganiad yr Hydref sy’n cael ei weld yn hollbwysig i ddyfodol S4C.

Mae ymgyrchwyr dros y sianel wedi rhybuddio y gallai hyd at 40% o gyllideb y sector darlledu yng Nghymru gael ei dorri ac felly bydd mwy o doriadau yn wynebu S4C.

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Prydain yn rhoi llai na £7 miliwn i sicrhau dyfodol y sianel – sy’n ostyngiad o £93 miliwn o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Iestyn Garlick o Deledwyr Annibynnol Cymru (TAC) a Siwan Haf, sy’n gweithio i Cwmni Da fydd yn siarad yn y cyfarfod, ynghyd â Andrew Walton, sy’n cynrychioli rhanbarth y gogledd o Gymdeithas yr Iaith, a David Wyn, cydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg, a fydd yn hwyluso’r drafodaeth.

Byddai rhagor o doriadau yn ‘argyfyngus’

“Ry’n ni’n ymateb i’r Datganiad ddydd Mercher, ar un llaw rydym ni’n gobeithio y bydd ‘na ddim toriadau pellach ac felly bydd y cyfarfod yn gallu gwyntyllu’r posibiliadau o ddefnyddio’r cyllid a’r adnoddau presennol i wella darpariaeth aml-gyfrwng ar-lein,” meddai David Wyn wrth golwg360.

“Ond petai ni’n gweld toriadau, bydda hynna’n argyfyngus ac yn sicr bydd yn rhaid i ni yng Nghymru sicrhau ein bod ni’n un llais. Bod ‘na un corff yng Nghymru yn cynrychioli pobol Cymraeg a di- Gymraeg (i alw am) yr hawl i gael yr un safon (o raglenni Cymraeg).”

Yn ôl David Wyn, mae sicrhau ansawdd rhaglenni Cymraeg i blant, pobol ifanc ac oedolion yn hawl dynol gan fod y sianel yn “dangos diwylliant (Cymru) sy’n dod gyda’r iaith.”

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn credu mai rhagor o arian sydd ei angen ar S4C er mwyn creu mwy o sianeli Cymraeg a chreu mwy o waith yn lleol i bobol Cymru.

“Ein dymuniad ni yw cael gwaith yn lleol i bobol Cymru, ac yn hynny ry’n ni mo’yn mwy o ffyniant yn y diwydiant,” ychwanegodd David Wyn wrth drafod yr angen i ddiogelu cwmnïau teledu annibynnol ledled Cymru.

Mae’r cyfarfod yn mynd law yn llaw ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith #caruS4C lle wnaeth nifer sylweddol o enwogion Cymru lofnodi llythyr agored gan y mudiad at Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn galw ar y Ceidwadwyr i gadw at eu haddewid o ddiogelu cyllideb S4C.

Dywed y trefnwyr bod yna wahoddiad i’r gymuned leol gan gynnwys busnesau’r dref, “er mwyn gwyntyllu’r sefyllfa o bob ongl posib i geisio dod o hyd i ddatrysiad i #achubS4C.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal nos Iau am 6 yng nghanol tref Caernarfon – union leoliad i’w gadarnhau.