Rhun ap Iorwerth
Mae llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth wedi galw ar Lywodraeth Prydain i sefydlu Comisiynydd Traffig arbennig i Gymru.

Daw’r sylw yn dilyn argymhelliad y Comisiynydd Traffig presennol, Nick Jones, a ddywedodd y byddai sefydlu Comisiynydd Traffig i Gymru yn arwain at “safonau uwch.”

Ar hyn o bryd, mae Nick Jones yn Gomisiynydd Traffig dros Gymru a gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, wedi pwysleisio’r angen am Gomisiynydd Traffig i Gymru gan ddweud y gallai’r Comisiynydd wneud pethau ychwanegol – fel asesu diogelwch ar ffyrdd a’r modd y mae tacsis yn gweithredu.

‘Mater o synnwyr cyffredin’

Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ailystyried eu penderfyniad i wrthwynebu’r argymhelliad hyn.

Fe ychwanegodd y byddai cael Comisiynydd Traffig i Gymru’n ychwanegu at wella gwasanaeth a diogelwch teithwyr bysiau.

“Byddai hefyd yn golygu y gallai teithwyr tacsi gael gwell gwasanaeth rheoledig, gan roi cyfle i lywodraethau’r dyfodol gydweithio â’r Comisiynydd wrth fynd i’r afael â materion yn y diwydiant tacsis.”

Fe ddywedodd fod Llywodraeth Cymru “eisoes yn talu allan o’i boced ei hun ar gyfer swyddogion ychwanegol i gynorthwyo’r Comisiynydd.” Am hynny, mae’n galw am Gomisiynydd annibynnol a fyddai’n medru canolbwyntio’n llwyr ar Gymru.

“Dyma’r amser perffaith i Lywodraeth Geidwadol y DU i feddwl eto am ei wrthwynebiad i’r cynnig hwn. Byddai’n rhyfedd iawn i Gymru barhau i dderbyn gwasanaeth llai yn ymwneud â thraffig nag ardaloedd eraill Lloegr a’r Alban.”

Fe ychwanegodd fod y Ceidwadwyr wedi cyfaddawdu ar faterion datganoli y mae Plaid Cymru wedi’u cyflwyno cyn hyn, “ac mae hyn yn fater o synnwyr cyffredin lle mae angen iddynt wneud yr un peth eto,” meddai Rhun ap Iorwerth.