Côr Meirionnydd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth olaf y noson
Cafwyd gwledd o gystadlu yn Aberystwyth dros y penwythnos wrth i fudiad y Ffermwyr Ifanc lanio yn y dref ger y lli ar gyfer eu Heisteddfod flynyddol.

Sir Gâr oedd yn fuddugol eleni, ac fe aeth y gadair i Endaf Griffiths o glwb Pontsian yng Ngheredigion – gallwch weld holl ganlyniadau’r cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref yma.

Bu Golwg360 yno drwy gydol y dydd ac fe allwch chi weld lluniau o’r eisteddfod, yn ogystal â rhai o hunluniau’r cystadleuwyr, ar ein tudalen Twitter.

Roedd ein camera symudol ni hefyd wedi bod yn crwydro Canolfan y Celfyddydau yn ystod y diwrnod – dyma’n pigion ni!

Cystadleuaeth y Meim oedd un o’r rhai cynnar yn y dydd, ac fe ddaeth criwiau lliwgar Ceredigion, Clwyd a Sir Gâr draw am sgwrs gyda ni:

Fe wnaethon ni hefyd fachu gair sydyn â Miriam Williams, oedd yn brysur drwy’r dydd yn ei gwaith fel Swyddog Gweithredidadau’r Ffermwyr Ifanc:

Fe gawson ni glywed darn o gân wreiddiol Nest, Dafydd a Cadi o Geredigion:

Roedd Dai Jones Llanilar yn llawn brwdfrydedd ac egni fel arfer ar ôl bod yn arwain y cystadlu yn ystod y bore:

Cawsom air hefyd â Siwan Jones, Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod:

Roedd Eirian Jones, Llywydd yr Eisteddfod eleni, yn awyddus i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr oedd wedi cyfrannu at gynnal y digwyddiad:

Yna’r wobr fawr – Endaf Griffiths o Bontsian yng Ngheredigion yn cipio’r gadair!

Roedd Aled Llŷr Davies, gwneuthurwr y gadair, hefyd wrth law i siarad am ei gampwaith:

Un arall o enillwyr y dydd oedd Elen Thomas o Sir Gâr, gipiodd ddwy o wobrau’r llwyfan:

Wrth i’r noson fynd yn ei blaen roedd criw y sgetsys yn mynd drwy eu pethau:

Roedd y corau hefyd yno’n paratoi ar gyfer cystadleuaeth olaf y noson:

Ac i gloi’r noson, Sir Gâr yn dathlu buddugoliaeth!