Mae nifer sylweddol o enwogion o Gymru wedi llofnodi llythyr agored gan Gymdeithas yr Iaith at Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn galw ar y Ceidwadwyr i gadw at eu haddewid o ddiogelu cyllideb S4C.

Fe fydd cynlluniau’r Llywodraeth yn dod yn fwy eglur yr wythnos nesaf yn dilyn yr adolygiad gwariant ddydd Mercher.

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Prydain yn rhoi llai na £7 miliwn i sicrhau dyfodol y sianel – sy’n ostyngiad o £93 miliwn o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Roedd sicrhau dyfodol ariannol S4C yn un o addewidion y Ceidwadwyr yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ddechrau’r flwyddyn.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens, y bardd Benjamin Zephaniah, y cantorion Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan, Dewi Pws a Casi Wyn, a’r cyflwynwyr Sian Lloyd a Huw Stephens.

Mae’r llythyr yn dweud: “… S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, ac mae’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ffyniant y Gymraeg, iaith fyw hynaf Prydain … Dywedwyd wrth wneud y toriadau hyn bum mlynedd yn ôl y byddai unrhyw doriad pellach yn golygu na fyddai’r darlledwr yn gallu parhau.

“Bellach, mae Llywodraeth Prydain yn cyfrannu llai na £7 miliwn y flwyddyn i gyllideb S4C gyda gweddill yr arian yn dod o’r ffi drwydded. Mae’r grant bach hwn yn un o’r ychydig ffyrdd mae Llywodraeth Prydain yn cefnogi’r Gymraeg yn uniongyrchol.

“Cafwyd addewid yn eich maniffesto Cymreig y byddwch chi fel Llywodraeth yn ’diogelu’ cyllideb S4C. Rydym yn croesawu hynny, ac yn gofyn i chi anrhydeddu’r addewid hwnnw yn yr adolygiad gwariant a gyhoeddir yn fuan.”

Wrth groesawu’r llythyr agored at Brif Weinidog Prydain, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: “Mae’r llythyr yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref i’r sianel. Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf.

“Byddai unrhyw doriad pellach yn chwalfa i’r sianel, ac yn tanseilio’r Gymraeg.

“Mae’r iaith yn drysor i gymaint o bobl ar draws ynysoedd Prydain, byddai’n ergyd i gyfoeth diwylliannol y byd pe bai bygythiad pellach i S4C.

“Cafwyd addewid clir gan y Ceidwadwyr yn yr etholiadau na fyddai unrhyw doriad pellach i’r darlledwr: pe bydden nhw’n torri’r addewid hwnnw, byddai goblygiadau etholiadol difrifol iddyn nhw yn etholiadau’r Cynulliad flwyddyn nesaf.

“Dy’n ni ddim eisiau gweld y BBC yn traflyncu S4C ac yn dominyddu’r farchnad hyd yn oed yn fwy.

“Yr hyn sydd angen er mwyn datblygu’r Gymraeg i fod yn rhan o’r oes ddigidol, ac i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod, yw datblygu S4C ymhellach.”