Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i leidr dorri i mewn i gartref hen wraig 97 oed yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd yr hen wraig yn cysgu yn ei gwely pan dorrodd y lleidr i mewn i’w chartref ar Stryd Pantmawr yn Rhiwbina a mynnu ei gemaith a’i harian.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus yn erbyn hen wraig yn ei chartref ei hun,” meddai’r Ditectif Sarjant Chris Grey  o CID Caerdydd.

“Fe wnaeth y dyn geisio tynnu’r modrwyau oddi ar ei bysedd ac wedyn fe wnaeth fynnu arian ar ôl iddi fynd i lawr y grisiau yn ei lifft.

“Wedyn fe wnaeth ddatgysylltu ei ffôn, ac fe fu’n rhaid iddi fynd allan i chwilio am help.

“Rydym yn cynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad ac rydym yn gwneud popeth a allwn i gael hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol.”

Caiff y lleidr ei ddisgrifio fel dyn ifanc gwyn, yn gwisgo sgarff du, anorac dywyll a jîns.

“Dw i’n pwyso ar unrhyw un sy’n adnabod y sawl sydd dan amheuaeth i roi gwybod inni er mwyn y ddioddefwraig oedrannus sydd wedi cael profiad mor frawychus,” ychwanegodd y Ditectif Grey.

Gellir galw’r heddlu ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 1500431723.