Sam Tân yn ei ogoniant gwreiddiol
Fe gafodd sawl un ohonom ni’r pleser o gael ein difyrru am oriau pan oedden ni’n ifanc gan rai o gartwnau a rhaglenni plant poblogaidd S4C.

Mae ambell un o’r cymeriadau rydan ni’n cofio dal ar y sgrin o hyd wrth gwrs, gan gynnwys Sam Tân a chriw Pontypandy, a Sali Mali a Jac y Jwc draw yn Pentre Bach.

Ond does dim byd cweit fel y gwreiddiol, fel maen nhw’n ei ddweud, ac mae hynny wastad yn wir pan gofiwn ni am raglenni’n plentyndod ni – dim Ben Dant, Dona Direidi a Cyw i ni, sori.

Mae golwg360 wedi bod yn hel atgofion am rai o hen glasuron y gorffennol sydd bellach ar gael i’w gwylio ar y We, fydd yn sicr yn gyfarwydd i rai sydd ychydig yn rhy hen i wylio rhaglenni plant heddiw bellach!

Faint o’r rhain ydych chi’n eu cofio? Pa rai oedd eich ffefrynnau chi? Ac oes gennych chi atgofion am glasuron eraill yr hoffech chi eu rhannu? Mae croeso i chi adael sylw…

Sam Tân

Y dyn tân hynod boblogaidd o Bontypandy yn dal i fynd, ond pwy sydd eisiau gwylio’r fersiwn newydd CGI pan allwch chi ail-fyw’r gwreiddiol – a mwynhau cymeriadau efo enwau fel Bella Lasagne ac Elvis Cridlington?

Caffi Sali Mali

Un arall o’r hen ffefrynnau sy’n dal i fynd, ond rhain oedd y gwreiddiol a’r gorau ynte. Tybed ble mae Nicw Nacw arni erbyn nawr?

Tomos y Tanc

Un arall o’r tiwniau mwyaf cofiadwy, wrth i Tomos a’i ffrindiau wibio rownd ynys Sodor ac osgoi drygioni’r tryciau drwg.

ABC

Heb help Lisa a Meilir a’r singalongs efo pypedau, does wybod pryd fydden ni erioed wedi dysgu sut i gyfri a beth oedd llythrennau’r wyddor.

Slici a Slac

Dau dditectif o dwcan a’u malwen yn mynd allan i achub y byd rhag yr hwyaid drwg, ac yn fwyaf cofiadwy am y theme tune epig yna.

Pobl Tresgidie

Mae pawb yn gwybod wrth gwrs nad ydi sianel deledu plant yn gyflawn heb raglen gyda lot o sgidiau’n byw mewn pentref lliwgar ac yn siarad â’i gilydd.

Wil Cwac Cwac

Roedd Llyf Mawr y Plant yn gonglfaen i ddifyrrwch plentyndod cenedlaethau o blant Cymru, felly dim syndod bod cymeriadau fel Wil Cwac Cwac ac Ifan Twrci Tenau wedi profi’n llwyddiant ar y sgrin fach hefyd.

Y Sgerbyde

Mewn ‘stafell dywyll ddu, mewn swyddfa dywyll ddu, mewn pencadlys teledu tywyll du, fe benderfynodd rhywun gomisiynu cartŵn am ddau sgerbwd a’u ci.

Deri Deg

Un retro arall, efo anturiaethau Concyr, Sycamorwydden, Derwen a Robin y Post yn y goedwig.

Tecwyn y Tractor

Hoff dractor y genedl, gan gynnwys Bryn Fôn. Tecwyn bib bîîîb!

Superted

Dai Tecsas oedd dyn mwyaf dieflig a pheryglus y byd ar un tro. Heb os. Lwcus bod ein hoff dedi hud a’i ffrind Smotyn yno i achub y dydd.

Jini Mê

Byddwch yn onest, pwy oedd ddim eisiau bod fel y cool kid on the block Jini Mê Jôns?

Rala Rwdins

Un arall o’r llyfrau plant ddaeth yn ffefryn ar y sgrin, roedd pawb wrth eu bodd ag anturiaethau Rwdlan, Dewin Dwl a’r criw yng Ngwlad y Rwla.

Syr Wynff a Plwmsan

Doedd dim byd fel slapstic y ddau glown yma – trychineb rownd pob cornel ac o leiaf un darten gwstard yn yr wyneb bob tro.

Gallwch hel atgofion melys, a gadael sylwadau blin am y rhaglenni rydan ni wedi’u methu, isod…