DNA (Ffeil Gyhoeddus)
Fe gadarnhaodd S4C wrth gylchgrawn Golwg fod ymgynghorydd annibynnol yn ystyried cwynion am un o’i phrif gyfresi.

Fe gafodd y sianel gŵyn swyddogol ynghylch y gyfres DNA Cymru sy’n ailddechrau nos Sul.

Fe benderfynodd Pwyllgor Cwynion S4C benodi ymgynghorydd annibynnol i edrych ar bryderon.

Yn ôl y sianel, fe fydd y Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad yn ystod yr wythnosau nesa’.

‘Camarwain’

Fe gafodd y gŵyn ei gwneud gan weithiwr llawrydd ym maes y cyfryngau newydd, Iwan Standley, a oedd yn honni bod y rhaglen yn camarwain pobol gyda gwybodaeth wyddonol.

Mae academyddion ym maes geneteg ym Mhrifysgol Llundain hefyd wedi condemnio’r gyfres a’r honiadau ynddi bod modd olrhain DNA unigolion enwog yn ôl i grwpiau a mannau penodol.

Un o brif gwynion y beirniaid yw fod pobol yn cael eu hannog i wario £160 neu £190 ar brawf DNA gyda chwmni masnachol preifat sy’n rhan o’r bartneriaeth y tu cefn i’r rhaglen.

Ond mae’r gwyddonydd Cymraeg, Deri Tomos, wedi dweud wrth Golwg nad yw’n credu bod y rhaglen yn camarwain.

Rhagor am ddwy ochr y ddadl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.