Aled Jones yw cynghorydd Llanaelhaearn
Mae Llais Gwynedd wedi colli ei gafael ar sedd arall yng Nghyngor Gwynedd.

Eisoes eleni mae’r blaid wedi colli tri chynghorydd sir wrth i Simon Glyn, Gweno Glyn a Gruffydd Williams adael am Blaid Cymru.

Aled Wyn Jones o Drefor enillodd yr isetholiad yn Llanaelhaearn ddoe ar ran Plaid Cymru.

Bu’n rhaid cynnal isetholiad yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Llywarch Bowen Jones o Lais Gwynedd i ymddiswyddo  yn gynharach eleni.

Cafodd Aled Wyn Jones, sy’n reolwr cwmni tractorau lleol Menai Tractors, 48.6% o’r bleidlais, gyda’r ymgeisydd Llais Gwynedd, Isaac Wynne Thomas yn llwyddo i gael 27%.

Yn dilyn etholiad diwethaf i’r cyngor sir ym mis Mai 2012 roedd gan Llais Gwynedd 13 o gynghorwyr, ond mae’r nifer bellach lawr i wyth.

Mae gan Blaid Cymru 39, Llafur 5, Lib Dems 2 ac mae 20 o gynghorwyr annibynnol neu unigol.

Llais Gwynedd yn ‘cario ymlaen’

Er gwaetha’r canlyniad, mae Llais Gwynedd yn mynnu ei bod yn “dal i sefyll ei thir”.

“Mi rydan ni’n siomedig â’r canlyniad wrth gwrs. Ond mae’n rhaid i chi fynd gyda be’ mae’r bobol eisiau,” meddai’r Cynghorydd Anwen Jane Davies o Lais Gwynedd.

Dywedodd ei bod yn “anodd iawn dweud pam” bod y blaid wedi colli cefnogaeth ond roedd yn mynnu bod angen Llais Gwynedd o hyd yn siambr y cyngor.

“Mi rydan ni dal yn erbyn polisi addysg y cyngor ac mae rhai yn gryf iawn yn erbyn cau ysgolion bach hefyd,” meddai.

“Beth sy’n gwneud ni’n wahanol [i Blaid Cymru] yw ein bod ni yn cwffio dros y werin ar lawr gwlad. Mi rydan ni yna i bobol pan fyddan nhw angen help.”

 ‘Uchelgais a llwyddiant’ Plaid Cymru

Mewn isetholiad arall ar gyfer y cyngor sir ddoe, fe lwyddodd y dyn ambiwlans Gareth Roberts i gadw  sedd Ward Dewi ym Mangor ar ran Plaid Cymru.

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud mai “uchelgais” a “llwyddiant” Plaid Cymru yn y sir sydd wedi denu pobol i fwrw pleidlais drosti.

“Rydan ni wedi bod yn llywodraethu yng Ngwynedd mewn cyfnod anodd iawn yn ariannol ond rydan ni dal yn uchelgeisiol dros y sir. Rydan ni dal yn awyddus i sicrhau ein bod ni’n creu llwyddiant i’r sir,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards wrth golwg360.

“Mae’r neges bositif yna mewn cyfnod anodd yn rhywbeth mae pobol Gwynedd yn gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod nhw eisiau cefnogi a bod yn rhan ohono fo. Dyna sut mae llywodraethu a dyna sut mae sicrhau dyfodol i’r rhan yma o Gymru.”