Mae 50% o blant Ynys Môn bellach yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn wythnosol, yn ôl arolwg o ddisgyblion ysgolion yr ynys.

38% oedd y ffigwr cyfatebol yn 2013.

Drwyddi draw yng Nghymru mae 48% o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Daw’r ffigurau gan gorff Chwaraeon Cymru, sydd wedi holi dros 116,000 o blant.

Mae Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, wrth ei bodd gyda’r cynnydd – ond nid da lle gellir gwell, meddai.

“Mae’n amlwg ein bod wedi datblygu fformiwla lwyddiannus i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan, ond mae llawer mwy i’w wneud os ydym am gyrraedd y targed o 75% o bobl ifanc yn ymwneud â chwaraeon erbyn 2026.”