Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos mai 17% o blant 12 ac 13 oed rhugl eu Cymraeg sy’n gwylio rhaglenni S4C ar y teledu, 9% sy’n darllen llyfrau Cymraeg a 5% yn unig sy’n mynd ar wefannau Cymraeg.

Mae ymchwilwyr WISERD Education wedi holi dros 800 o bobol ifanc rhwng 12 ac 15 oed ledled Cymru am eu hagwedd tuag at yr iaith, a ffrwyth y gwaith hwnnw yw cyhoeddi adroddiad What Future for the Welsh Language.

O blith yr 800, fe wnaeth y grŵp holi 366 o ddisgyblion 12 ac 13 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg ynglŷn â faint o Gymraeg oedden nhw’n ei ddefnyddio o ddydd i ddydd.

Dim ond 5% o’r Cymry Cymraeg oedd yn mynd ar wefannau Cymraeg, 9% oedd yn darllen llyfrau neu gylchgronau Cymraeg, a’r ffigwr ond yn codi rhywfaint i 17% ar gyfer y nifer oedd yn gwylio teledu Cymraeg neu’n gwrando ar yr iaith.

Yn sgil y ffigurau, mae’r ymchwilwyr wedi galw am wneud gwefannau Cymraeg yn fwy hygyrch i bobol ifanc, er mwyn denu mwy i’w defnyddio.

Positif ynghylch yr iaith

Er y canrannau isel o ran gwylio teledu a mynd ar wefannau, roedd y sampl cyfan o bobol ifanc a holwyd yn bositif ar y cyfan ynghylch yr iaith, gyda 75% yn credu ei bod hi’n bwysig i gadw’r Gymraeg yn fyw.

Roedd y ffigwr yn gostwng ychydig pan ofynnwyd pa mor bwysig oedd hi fod nhw eu hunain yn dysgu Cymraeg, gyda 65% yn ateb yn gadarnhaol.

59% oedd yn credu ei bod hi’n bwysig i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd, ac mae’r gwahaniaeth yn y ffigurau hyn yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng ‘agwedd’ tuag at yr iaith a’r arfer o’i defnyddio.

Y Gymraeg yn bwnc amhoblogaidd

Roedd y ffigurau dipyn yn fwy llwm pan ofynnwyd i’r plant ystyried y Gymraeg fel “pwnc”, gydag ond 28% yn dweud eu bod nhw’n “hoff iawn” o’i astudio yn yr ysgol.

Roedd mwyafrif sylweddol y bobol ifanc a holwyd – 32.5% yn dweud doedden nhw ddim yn ei hoffi o gwbl.

Ac roedd yna gysylltiad rhwng hyn â’r iaith yn gyffredinol, gyda disgyblion doedd ddim yn hoff o Gymraeg fel pwnc yn fwy tebygol o beidio meddwl bod y Gymraeg yn bwysig.

Roedd plant mewn ysgolion dwyieithog/Cymraeg yn fwy positif tuag at yr iaith fel pwnc na’r rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Ac roedd cynefin y disgyblion hefyd yn “allweddol” i’r canfyddiadau, gyda phobol ifanc sy’n byw yn y Fro Gymraeg yn llawer mwy tebygol o fwynhau Cymraeg fel pwnc.

Gwaith dadansoddi yn parhau

“Mae’r gwaith hwn yn bwysig achos bod y data yn dod o’r disgyblion ei hun, a does dim llawer o ddata yn dod o Gymru ar hyn o bryd sy’n rhoi persbectif y disgybl,” meddai Dr Sioned Pearce, un o’r rhai wnaeth y gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad.

Dywedodd hefyd y byddai’r grŵp ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd yn eu Blaenau i wneud gwaith dadansoddi “i ddilyn y data ac ystyried pam dyw pobol ifanc ddim yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd,” gan ychwanegu hefyd eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt â Llywodraeth Cymru ynghylch y canfyddiadau.

“Byddwn ni hefyd yn edrych i mewn i weithgareddau hamdden y Gymraeg fel llefydd fel Llangrannog a chlybiau ieuenctid Cymraeg ac edrych i mewn i’r bobol ifanc sy’n mynd i rhain a’r rhai sydd ddim.”

Ac roedd Sioned Pearce yn bendant bod yn rhaid gwneud yr iaith yn ddeniadol: “Dyw hi ddim yn ddigon i ddysgu’r iaith yn yr ysgol yn unig, mae’n rhaid gwneud rhywbeth arall yn gymdeithasol.”